Les Miserables 2015

130 o gast yn perfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru 29 – 31 Hydref 2015

Ymgeisiodd 250 o bobl ifanc ar draws Cymru gais i fod yn rhan o’r sioe gerdd eiconig, Les Misérables; Fersiwn Ysgolion -sef cynhyrchiad ar y cyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr Genedlaethol yr Urdd.

Dewiswyd cast o 130 a deg wedyn  yn cael eu dewis wedyn ar gyfer y prif rannau, sef

  • Sioned Llewelyn o Efail Newydd yn chwarae rhan Cosette
  • Ashley Rogers o Abertawe yn chwarae rhan Enjolras
  • Jodi Bird o Benarth a Lois Postle o Gaergybi fydd yn rhannu rhan Eponine
  • Gwen Edwards o Borth Swtan yn chwarae rhan Fantine
  • Gareth Rhys Thomas o’r Tymbl yn chwarae rhan Jarvet
  • Osian Wyn Bowen o Borth Tywyn yn chwarae rhan Val Jean
  • Erin Wyn Rossington o Lanfair Talhaearn yn chwarae rhan Madame Thernadier
  • Dafydd Wyn Jones o Lanrhaeadr yn chwarae rhan Marius
  • Dewi John Wykes o Langynhafal yn chwarae rhan Thernadier

Llwyfannwyd y sioe mewn partneriaeth gydag Ysgol Glanaethwy a gyda chefnogaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  Cefin Roberts yw Cyfarwyddwr Artistig y sioe gyda John Quirk yn Gyfarwyddwr Cerdd a Carys Edwards a Rhian Roberts yn Is-Gyfarwyddwyr. 

Dywedodd Cameron Mackintosh,  Cyfarwyddwr y sioe yn y West End, “Mae’n bleser gennyf gefnogi’r cynhyrchiad unigryw hwn i ysgolion o Les Miserables yn Gymraeg fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Canolfan Mileniwm Cymru yn 10 oed. Mae’r sioe ei hun wedi canfod nifer o sêr ar gyfer y theatr broffesiynol, ond hefyd, ers i’r Cynhyrchiad i Ysgolion o Les Miserables gael ei lansio yn 2002 er mwyn dathlu deucanmlwyddiant Victor Hugo, mae llawer o'r myfyrwyr a berfformiodd yn y Cynyrchiadau i Ysgolion wedi graddio ac wedi mynd ymlaen i chwarae prif rannau mewn cynyrchiadau mawr yn y West End. Mae Cymru yn parhau i gynhyrchu talentau gwych ac rwy'n siŵr y caiff cenhedlaeth newydd o berfformwyr eu canfod drwy'r cynhyrchiad newydd hwn."

Yn dilyn perfformiadau llwyddiannus tros ben, doedd y daith ddim yn gorffen yn fan hyn i’r perfformwyr ifanc. Nos Iau 8 Hydref 2015, cafodd y cast berfformio yng nghyngerdd gala 30 mlwyddiant Les Misérables yn y Queen’s Theatre West End fel gwesteion arbennig i Cameron Mackintosh. Yn dilyn perfformiad prif gast y West End, daeth y cast gwreiddiol a phump cyn ‘Jean Valjean’, oedd yn cynnwys John Owen Jones, yn ogystal â’r 130 o Gymry ifanc ar y llwyfan ar gyfer ‘finale’ mawreddog.  Cafodd y Cymry eu gwahodd i berfformio yn dilyn ymweliad annisgwyl gan Cameron Mackintosh yn ystod un o ymarferion Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd.