Mae Eisteddfod yr Urdd yn cynnig y cyfle i ddysgwyr gystadlu yn flynyddol. Mae cystadlaethau Llefaru, Theatr a Cherdd Dant yn benodol ar gyfer unigolion, grwpiau a phartïon o ddysgwyr sydd yn dymuno cystadlu.
Neu beth am wneud cais ar gyfer un o brif seremoniau'r dysgwyr, sef Medal Bobi Jones neu Dlws y Dysgwyr?
Mae digonedd o gystadlaeuthau i ddysgwyr Cymru, a rydym ni fel swyddogion Cymraeg Bob Dydd bob tro'n barod i gynnig ein cymorth boed yn cynorthwyo mewn ymarferion neu drefnu trefnidiaeth i fyny neu lawr i'r Eisteddfod. Cofiwch gysylltu ar e-bost cymraegbobdydd@urdd.org
Mae ardal benodol ar gyfer cystadlu yn yr Eisteddfod os yn ddysgwr ar wefan yr Urdd yn y linc yma;gyda'r holl restrau o gystadlaeuthau: Dysgwyr
Ymaelodi cyn cystadlu
Nid oes dyddiad cau - ond y dyddiad ar gyfer cael aelodaeth yn rhatach yw cyn 9 Ionawr 2020 am gost o £8 y pen. Bydd y gost yn cynyddu i £10 yr unigolyn ar ôl y dyddiad hwn, neu £25 i deuluoedd, hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd 2019/2020. Dilynwch y linc isod er mwyn ymaelodi.