Hanes y daith

Mae gan yr Urdd berthynas arbennig gyda Phatagonia ac ers 2008 mae dros 300 o bobl ifanc wedi ymweld â'r Wladfa gyda ni.


Mae'r daith wirfoddol hon yn rhedeg ers 2008, ac mae’r bobl ifanc sydd wedi mynychu yn y gorffennol wedi cael profiadau anhygoel.

Mae'r daith yn datblygu sgiliau, rhoi cyfle i bobol ifanc fod yn rhan o gymuned Gymraeg y Wladfa, cyflawni gwaith gwirfoddol, a chael cyfle i gymryd rhan mewn Eisteddfod gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Sbaeneg!

Taith Patagonia 2018
Taith Patagonia 2018

Eich barn chi:

"Mae'r daith wedi bod yn agoriad llygaid. Roeddwn i yn fy nagrau yn gweld plant pedair oed yn canu'r anthem gendlaethol. Roedd gweld a theimlo eu hangerdd am yr iaith wedi fy ysbrydoli i barhau gyda'r gwaith, a gwneud mwy o ymdrech i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg."

"Am brofiad. Dwi mor ddiolchgar am gael fy newis. Dwi wedi canu, chwethin, dawnsio, chware a siarad gyda pobol arbennig Patagonia. Mae'n rhoi gobaith i mi y gallai rannu'r angerdd yma am yr iaith yn ol yn fy nghymuned."

“Roedd y ffaith fy mod wedi gweld gymaint o ymdrech oedd yno i siarad Cymraeg yn anhygoel. Rydw i hefyd wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd wrth gyfarfod gymaint o griw o fy oedran i oedd yn cymdeithasu yn y Gymraeg.”

 “Roedd yn bwysig imi o ran Cymru a Chymreictod, ond nid oeddwn wedi cysidro hanes a diwylliant yr iaith cymaint ag a wnes i wedi’r daith. Roedd clywed yr iaith ben draw’r byd yn agoriad llygad, a dechreuais ddeall pwysigrwydd ehangach yr iaith, a hanes y Cymry ym Mhatagonia. Dysgais gymaint ar y daith – gwybodaeth na fyswn wedi ennill heb y profiad hwn.”

“Gallen i ysgrifennu llyfr cyfan am fy hoff atgofion, ond rhaid gweud bod fy niwrnod yn Ysgol Feithrin y Gaiman wedi bod mor emosiynol. O’dd gweld plant bach 2-5 oed yn canu’r anthem yn hollol swreal ac mor arbennig .Profiad gorau fy mywyd o bell ffordd. Byddai’n ddiolchgar i chi am weddill fy oes am roi y cyfle bythgofiadwy yma i mi.”

“Roedd cystadlu yn yr Eisteddfod, cyfarfod a phobl yn y cymunedau Cymraeg, a bod yng nghwmni criw’r Urdd yn rhywbeth arbennig a fydd yn aros yn fy nghof am weddill fy mywyd. Roedd yn bleser gweld diwylliant y wladfa a’r gymuned Gymraeg.” 

“Dwi wedi crio, chwerthin a llawer mwy ond mae’n iawn dweud dwi wedi cwrdd a’r pobol gorau yn y byd, a rwy’n teimlo’n rhan o deulu mawr newydd. Dwi’n teimlo mor diolchgar a mor lwcus i fod ar y trip yma.”

“Nid wyf yn gallu pwysleisio digon pa mor fuddiol ac anhygoel oedd y daith!!!! Nid yn unig o ran y profiad uniongyrchol, ond yr effeithiau personol a chymdeithasol ar fy mywyd. Nid llawer o bobl trwy eu hoes sy’n medru dweud eu bod wedi teithio i Batagonia, heb sôn am yn eu harddegau! Mae’n gyfle unigryw sy’n hyrwyddo’r Urdd fel mudiad anhygoel. Y profiadau hyn sy’n adeiladu unigolion. Rwyf bob tro yn annog pobl i geisio am y daith. Hyd heddiw, dyma profiad gorau fy mywyd, a ni welaf unrhyw brofiad arall yn ei guro!”

Gweld mwy am waith rhyngwladol yr Urdd