Wyt ti eisiau creu celf i gloriau albym? Bod yn rhan o photoshoots? Ail-gymysgu neu gynhyrchu caneuon? Creu ffilmiau a dogfennau i gerddoriaeth poblogaidd? Perfformio ar lwyfannau mwyaf Cymru?

Ar ol sesiynau hynod lwyddiannus ar ddechrau 2021 mae’r Urdd, Clwb Ifor Bach a Maes B yn cyd-weithio unwaith eto i ddarparu cyrsiau creadigol hynod gyffrous i bobl ifanc 16-25 sydd yn ymddiddori yn y byd cerddoriaeth, dylunio a ffilm. Mae'r holl weithdai yn cael eu cynnal ar-lein.

Ymunwch â pump o artistiaid a dylunwyr mwyaf adnabyddus Cymru, mewn cyfres o weithdai proffesiynol arlein dros gyfnod o dair wythnos.

Dyma gyfle i ymestyn, arbrofi a dysgu sgiliau a thechnegau hollol newydd mewn pedwar maes penodol.

Pris y sesiynau?

Mae'r sesiynau i gyd am ddim diolch i gydweithio rhwng Maes B, Clwb Ifor Bach a'r Urdd.

Ga i fynychu mwy nag un sesiwn?

Mae croeso i bawb fynychu unrhyw nifer o sesiynau.

1) Pob nos Lun am bythefnos: Tachwedd 15, Tachwedd 22

Gweithdy Ffotograffiaeth: Ymunwch a’r Ffotografydd, Sian Adler wrth iddi eich arwain mewn gweithdy arbennig ar ffotograffiaeth a golygu llyniau.

2) Pob Nos Lun: Tachwedd 15, Tachwedd 22, Tachwedd 29 (ar ol y sesiwn ffotograffiaeth)

Ysgrifennu Cerddoriaeth. Ymunwch a’r cerddor, Heledd Watkins (HMS Morris) wrth iddi rhannu ei sgiliau cyfansoddi. Ymunwch pob nos Fawrth a un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru. Dewch i ddysgu dulliau newydd a chyfoes o ysgrifennu caneuon.

3) Pob nos Fawrth: Tachwedd 16, Tachwedd 23, Tachwedd 30

Cynhyrchu a Pherfformio Cerddoriaeth Electronig. Ymunwch a un o DJs mwyaf poblogaidd Cymru, Endaf, i ddysgu sut i gynhyrchu cerddoriaeth electronig a dysgu elfennau o DJo.

4) Pob nos Fercher: Tachwedd 17, Tachwedd 24, Rhagfyr 1

Gweithdy Ffilm: Ymunwch a'r cerddor a'r cyfarwyddwr ffilm, Griff Lynch wrth iddo eich arwain mewn gweithdy arbennig ar olygu, creu fideo's a dogfennu i gerddoriaeth ac artistiaid.

5) Pob Nos Iau: Tachwedd 18, Rhagfyr 25, Rhagfyr 9

Gweithdy Celf a Dylunio. Mi fydd y dylunydd a’r cerddor Steffan Dafydd (Clwb Ifor Bach, Penglog), yn rhannu ei sgiliau dylunio gyda chi mewn gweithdy celf. Dewch i ddysgu sut i gyfuno prosesau digidol ac analog a sut i greu gwaith celf i safon uchel a proffesiynnol!