Syniadau i ysgolion
1. Llun fi
Fel yn y llun isod, tynnwch lun o'r plant yn gwneud siâp '='gyda'u breichiau i gefnogi Neges Heddwch pobl ifanc Cymru. Rhannwch eich lluniau gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol gyda #Heddwch2021 i ni lenwi'r byd arlein gyda heddwch ac ewyllys da o Gymru!

2. Meddwl am gydraddoldeb
Beth am osod her i'r plant ysgrifennu am gydraddoldeb i ferched? Dyma rai cwestiynau gallwch ofyn:
- Meddyliwch am fenyw rydych yn ei hedmygu yn eich bywyd ac ysgrifennwch amdani. Pam ydych chi wedi ei dewis?
- Beth mae cydraddoldeb yn ei olygu i ti?
- Pa mor aml rydych wedi bod yn dyst i rywiaeth neu wedi derbyn sylwadau rhyweddiaethol?
3. Celf
Beth am greu darn o gelf sy'n cynrychioli heddwch, cydraddoldeb i ferched, Cymru neu'r byd? Dyma enghreifftiau:
