Dathlu 100 diwrnod i fynd tan Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020!

Heddiw, Chwefror 14 2020, ar safle Maes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020 ar Fferm Kilford, Dinbych,  fe dorrwyd y dywarchen gyntaf i nodi 100 diwrnod i fynd tan yr ŵyl genedlaethol, sy’n denu hyd at 90,000 o bobol yn flynyddol, yn gystadleuwyr, cefnogwyr  ac ymwelwyr.  

Cynhelir yr Eisteddfod ar wythnos y 25 o Fai, gyda Sioe Uwchradd ar Fai 23, Cyngerdd Agoriadol ar Fai 24 a Sioe Gynradd ar Fai 26. Y sioeau, fydd yn cynnwys plant a phobl ifanc o bob cornel o’r sir, yw  Penawdau, sioe blant oed cynradd a Dan y Fawd, sioe ieuenctid. Mae’r ddwy yn sioeau hollol wreiddiol wedi eu hysgrifennu gan ddau enw cyfarwydd o’r sir, Penawdau gan Mali Williams, a Dan y Fawd gan Angharad Llwyd Beech sy’n cyfarwyddo ei sioe ei hun, gyda Catherine Jones yn is-gyfarwyddwr ac Ynyr Llwyd yn gyfansoddwr a chyfarwyddwr cerdd.  

Mae tocynnau’r rhain ar gael o heddiw (Chwefror 14) ar wefan yr Urdd urdd.cymru neu trwy ffonio 0845 257 1639. Bydd perfformiadau ychwanegol o’r Sioe Ieuenctid, a gynhelir yn Theatr Elwy, Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy ar Fai’r 2il a 3ydd yn ogystal a pherfformiad y 23 o Fai.  

Bydd y Cyngerdd Agoriadol yn cynnwys rhai o enwau mawr Cymru yn perfformio ochr yn ochr â thalentau lleol - y band Blodau Papur; Rhydian Jenkins, enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel yr Urdd y llynedd; y gantores Mared Williams, sydd hefyd yn canu cân swyddogol yr Eisteddfod eleni, sef Gwerth Ein Tir, a’r gantores Celyn Cartwright. Trystan Ellis-Morris fydd yn cyflwyno. Bydd enwau mawr eraill yn cael eu cyhoeddi o hyn i’r Eisteddfod ei hun.  

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd 15,000 o blant a phobl ifanc yn dod ynghyd i gystadlu mewn cystadlaethau sy’n amrywio o ganu, actio a dawnsio i gelf, coginio a chreu ap. Yn ogystal â’r cystadlu, bydd gweithgareddau megis sesiynau chwaraeon, wal ddringo, sioeau i blant, ffair, cerddoriaeth fyw a dros 80 o stondinau amrywiol ar y Maes.  

Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE:  

“Bu’r Eisteddfod yn ymweld â Sir Ddinbych ddiwethaf yn 2006 pan gafodd ei chynnal ar dir yn Ysgol Brynhyfryd. Bryd hynny, roedd yr Eisteddfod yn llwyddiant ysgubol. Roedd honno, fel yr Eisteddfod hon eleni, yn gyfle gwych i blant a phobl ifanc elwa o ŵyl ieuenctid fwyaf Cymru. Roedd llawer o frwdfrydedd yn lleol hefyd, gyda chymunedau’n gweithio gyda’i gilydd i godi arian ac i drefnu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau i hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn lleol. 

“Mae’r gefnogaeth ar gyfer yr Eisteddfod eleni wedi bod yn wych ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r Urdd dros y misoedd nesaf i wneud Eisteddfod 2020 yn un i’w chofio. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu Cymru gyfan i Sir Ddinbych.” 

Ychwanegodd Sian Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: 

“Wedi dwy eisteddfod wahanol eu naws, un ar faes y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd ac un arall yng Nghaerdydd y llynedd, mae’r Eisteddfod yn dychwelyd i faes mwy traddodiadol, yng nghysgod Bryniau Clwyd.  

“Mae yna gryn baratoi ac mae hi’n bleser gweld faint o frwdfrydedd a gwaith anhygoel sy’n mynd ymlaen ar draws y sir i gyd, o’r arfordir i lawr i waelod y sir. Mae pwyllgorau gwaith, ysgolion, clybiau a chymdeithasau lu wedi bod ac yn parhau i weithio mor galed i sicrhau y bydd Eisteddfod Sir Ddinbych yn eisteddfod i’w chofio.”  

I dorri’r dywarchen, ymunodd disgyblion ysgolion lleol - Ysgol Gynradd Frongoch, Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Uwchradd Plas Brondyffryn - gyda swyddogion o Gyngor Sir Dinbych a’r Eisteddfod. Fin nos, darlledodd rhaglen Heno ar S4C berfformiad gan Gôr Ysgol Pen Barras, a’i gwnaeth hi i rownd derfynol cystadleuaeth Côr Cymru y llynedd,  yn fyw o Lyfrgell Dinbych, sy wedi newid ei goleuadau i goch, gwyn a gwyrdd i adlewyrchu’r cyfnod o hyn i’r Eisteddfod.  

Bydd lleoliadau eraill o fewn y sir hefyd yn cael eu goleuo yn lliwiau’r Urdd wrth i’r wythnos fawr nesáu