Ydych chi'n Gylch Meithrin, Meithrinfa Dydd neu'n Ysgol Gynradd sy'n chwilio i gymhwyso eich staff drwy gyfrwng y Gymraeg?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant Gofal Plant Lefel 3 yn rhad ac am ddim? Ydych chi wedi meddwl am gyflogi prentis neu gynnig prentisiaeth i'ch staff cyfredol?
Mae Adran Prentisiaethau'r Urdd yma i ddarparu Prentisiaethau Gofal Plant Lefel 3 i'ch staff chi!
Prentisiaeth Gofal Plant Lefel 3: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yng Ngwynedd ac Ynys Môn
Beth gallwn gynnig i chi?
Yn syml, prentisiaethau Gofal Plant Lefel 3: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant i staff cylchoedd meithrin, meithrinfa ddydd neu ysgol gynradd Gymraeg (yn rhad ac am ddim!)
Pwy all gymryd rhan?
Aelod o staff sydd:
- wedi’i gyflogi (neu yn cael ei gyflogi o ddyddiad cychwyn y brentisiaeth) mewn lleoliad addas e.e. cylch meithrin, meithrinfa ddydd neu ysgol gynradd Gymraeg
- yn gyflogedig am hyd y brentisiaeth (18 mis) ac yn gweithio 16+ awr yr wythnos
Manteision!
- Datblygu gweithle cymwys a phrofiadol!
- Holl hyfforddiant gan Adran Prentisiaethau’r Urdd gan gynnwys gweithdai, adolygiadau misol, cymwysterau a chyfleoedd amrywiol eraill
- Cefnogaeth reolaidd asesydd
- Cefnogaeth ein HWB Sgiliau Hanfodol drwy’r Gymraeg
- Cylfe i'r aelod o staff ennill cyflog tra'n dysgu ac ennill cymwysterau
- Popeth yn rhad ac am ddim!