Hanes

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd yr Urdd elfen ryngwladol newydd i Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel. Diolch i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru. bydd enillwyr yr ysgoloriaeth yn perfformio yn un o ddathliadau byd-eang Dydd Gŵyl Dewi. Yn anffodus, oherwydd Covid-19 bu'n rhaid gohirio perfformiad enillydd eleni, Rhydian Jenkins, at adeg pan fydd teithio yn bosibl ac yn ddiogel.  

Mae’r bartneriaeth rhwng yr Urdd a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn golygu bydd rhai o gantorion ifanc mwyaf addawol Cymru yn cael platfform byd-eang i ddatblygu eu portffolio perfformio.

Gweld mwy am waith rhyngwladol yr Urdd