Hanes
Ym mis Mawrth 2020, lansiwyd partneriaeth newydd gyffrous rhwng yr Urdd a TG Lurgan, mudiad ieuenctid yn Iwerddon.
Pwy yw TG Lurgan?
Mae TG Lurgan yn fudiad ieuenctid arbennig yn Iwerddon. Eu bwriad yw hyrwyddo'r Wyddeleg a gwneud yr iaith yn apelgar i bobl ifanc trwy ganeuon cyfoes. Mae eu sianel YouTube yn cynnwys degau o gynhyrchiadau cerddorol trawiadol yn Y Wyddeleg, ac wedi denu miliynau o wylwyr!

Mawrth 2020
Lansiwyd y bartneriaieth rhwng y ddau fudiad ieuenctid yn Nulyn ym mis Mawrth 2020. Rhoddodd aelodau’r Urdd o Aelwyd yr Ynys, Ynys Môn, berfformiad cerddorol yn y Gymraeg gan ddilyn arddull cynhyrchiadau TG Lurgan, sy’n cymryd caneuon cyfredol a’u hailgreu yn Y Wyddeleg. Rhoddodd berfformiad cerddorol gan aelodau TG Lurgan hefyd.
Roedd y lansiad yn rhan o Wythnos Cymru Dulyn 2020 a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru.

Ionawr 2021
Er heriau'r pandemic i'r ddau fudiad, mae'r Urdd a TG Lurgan wedi rhyddhau cyd-gynhyrchiad ar ffurf fideo cerddoriaeth yn y Gymraeg a’r Wyddeleg, a hynny am y tro cyntaf erioed ar y 7fed o Ionawr 2021.
Mae ‘Golau'n Dallu / Dallta ag na Solise’ yn addasiad o’r gân boblogaidd ‘Blinding Lights’ gan The Weeknd. Bu i 28 o bobl ifanc o’r ddwy wlad recordio eu lleisiau o gartref a derbyn cyfarwyddiadau gan y fideograffydd Griff Lynch ar gyfer y fideo cerddoriaeth.
Bwriad y prosiect yw cyflwyno’r ddwy iaith leiafrifol i gynulleidfa fyd-eang, ac mae’r Urdd a TG Lurgan wedi dangos fod ffurfio partneriaeth rhwng y ddwy wlad yn hollbwysig er mwyn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ffynnu.
Ebrill 2021
Yn dilyn llwyddiant ysgubol y fideo cerddoriaeth Cymraeg/Gwyddeleg cyntaf erioed, bu i aelodau o’r Urdd a phrosiect ieuenctid TG Lurgan ryddhau ail gyd-gynhyrchiad, 'Gwenwyn / Nimhneach'.
Penderfynwyd mai addasiad o gân Gymraeg fyddai’r ail gyd-gynhyrchiad, sef ‘Gwenwyn’ gan y band roc a blws, Alffa – y sengl Gymraeg gyntaf i gyrraedd miliwn o ffrydiau ar Spotify, ac sydd bellach wedi’i ffrydio dros 3 miliwn o weithiau ar draws y platfformau digidol.
Cyhoeddwyd 'Gwenwyn / Nimhneach' ar 22 Ebrill, ac mae'n cynnwys cyfraniadau gan 28 o Gymry a Gwyddelod ifanc. Yn ogystal â pherfformiadau gan gantorion, mae dwy ddawnswraig wedi cydlynu coreograffi gyda’i gilydd hefyd; ceir Elan Elidir yn dawnsio o dan bont ar Lwybr Elai yng Nghaerdydd, ac Aisling Sharkey ar do adeilad Coleg Berfformio’r Phoenix yn Nulyn.
Mae'r addasiad i’w chlywed ar wasanaethau ffrydio fel Spotify hefyd y tro hwn.
Mehefin 2023 - Taith yr Urdd i Iwerddon
Yn dilyn llwyddiant y ddau cyd-gynhyrchiad rhithiol gyda TG Lurgan, fe drefnwyd bod aelodau o'r Urdd yn teithio draw i Connemara yn Iwerddon i greu'r cyd-gynhyrchiad cyntaf mewn person. Penderfynwyd i greu addasiad o gan boblogaidd Adele, 'Water Under the Bridge' yn y Gymraeg a'r Wyddeleg.
Ar ôl gwario noson yng Nglan-llyn ar yr 22ain o Fehefin, teithiwyd 16 o bobl ifanc 15 i 18 oed yn enw'r Urdd draw i Connemara, sef un o ardaloedd y 'Gaeltacht' i'r gogledd o Galway.
Cafwyd 4 diwrnod prysur yn Connemara yn ymarfer y gan, recordio a ffilmio'r fideo ar gyfer sianel youtube TG Lurgan. Creuwyd ffrindiau newydd ar y daith wrth i aelodau'r Urdd a phobl ifanc TG Lurgan rhannu diwylliannau'r ddwy wlad, megis dulliau cerddol, dawnsio gwerinol a phwysigrwydd a hanes y Gymraeg a Gwyddeleg.
Galeri'r daith





Ebrill 2023: Cwrs Glan-llyn
