Eleni cynhaliwyd yr ŵyl yn Philadelphia rhwng 31 Awst - 4 Medi. Mae wythnos yr ŵyl yn dathlu diwylliant Cymreig wrth gynnal Eisteddfod, cyngherddau a detholiad o weithgareddau gwahanol.
I gynrychioli'r Urdd yn yr ŵyl eleni, teithwyd Siân Lewis Prif Weithredwr yr Urdd a 4 o bobl ifanc. Cafodd Siriol Elin, Manon Ogwen, Tomos Bohanna a Dafydd Jones eu dewis i gynrychioli’r Urdd draw yn Philadelphia gan banel o feirniaid yn Eisteddfod T 2021 ac Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.
Cafodd y cantorion y cyfle i berfformio mewn cyngerdd yn y Perelman Theatre, yn Macy's, tu allan i'r City Hall fel rhan o'r seremoni agoriadol a flashmob yng nghanol y ddinas i ddiddanu a chyflwyno diwylliant Cymreig i bobl y ddinas. Ewch yma i weld y flashmob!
Mae’r cyfle i’r pedwar ymweld â Gŵyl Cymru Gogledd America wedi ei wneud yn bosib eleni diolch i rodd hael gan y diweddar Dr John M. Thomas, Cymro oedd wedi ymgartrefu yn Florida. Gadawodd Dr Thomas rodd i’r Urdd yn ei ewyllys gyda’r dymuniad o roi cyfle i berfformio a theithio i bobl ifanc Cymru.