Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac FAW, daeth yr Urdd yn rhan o Dîm Cymru 2022 i fynd â Chymru i'r byd a chefnogi ein tîm pêl-droed cenedlaethol yng Nghwpan y Byd.
Hefyd mewn partneriaeth gyda Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, teithiodd Côr yr Urdd i Qatar gan berfformio mewn sawl digwyddiad i gefnogi tîm Cymru.
Rhwng yr 13eg a'r 21ain o Dachwedd bu tîm o ddeg o aelodau staff a llysgenhadon ifanc yr Urdd yn cynnal sesiynau mewn ysgolion yn Doha, Qatar a Dubai. Trwy’r sesiynau, cafodd Cymru, ein hiaith, ein diwylliant a’n gwlad eu cyflwyno i gynulleidfa newydd. Roedd y sesiynau yn cynnig cyfle i blant ddysgu a chyd-chwarae, gan gynnig cyfleoedd cyfartal i bob plentyn.
Cynhaliwyd diwrnod rhyngwladol mewn un o'r ysgolion tra oedd staff a llysgenhadon yr Urdd yno. Dywedodd un llysgenad:
"Roedd bod yno ar gyfer diwrnod rhyngwladol yr ysgol yn brofiad arbennig, i ddysgu a gweld gwahaniaethau rhwng ein diwylliant ni yma yng Nghymru a diwylliannau eraill ar draws y byd".
Fel rhan o ddathliadau Tîm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022, teithiodd Ffion Pritchard, artist o Gymru, i brif ddinas yr UDA yn enw'r Urdd.
Mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a digwyddiad Soccer in the Circle, wnaeth Ffion ac artist lleol, Matt Malone, greu darn o gelf oedd yn adlewyrchu'r Urdd, Cymru ac ymbweru pobl ifanc. Cafodd y murlun wedyn ei arddangos yn Dupont Circle yn ystod gêm Cymru v UDA ar yr 21ain o Dachwedd.
Prosiect arall fel rhan o ddathliadau Cymru yng Nghwpan y Byd oedd taith Côr Dyffryn Clwyd i Qatar.
Diolch i'r bartneriaeth gyda Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, cafodd Côr yr Urdd gyfle arbennig i berfformio mewn sawl digwyddiad cyn y gemau yn Doha, gan gynnwys dau gyd-berfformiad o 'Yma o Hyd' gyda Dafydd Iwan i gefnogwyr Cymru.