Teitl y Swydd: Cynorthwyydd Llety
Math o gontract: Achlysurol
Graddfa: Graddfa 1 - £11.30 yr awr
Lleoliad: Gwersyll Caerdydd
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Mae Gwersyll Caerdydd yn croesawu 15,000 o blant a phobl ifanc i’r Brifddinas bob blwyddyn. Ein prif cwsmeriaid yw ysgolion o bob rhan o Gymru, ond rydyn hefyd yn croesawu teuluoedd, grwpiau allanol, grwpiau ieuenctid ac gallwn agor y Gwersyll i’r cyhoedd.
Mae gennym 29 ystafell wely, ac mae gan bob un ohonynt gyfleusterau en-suite.
Rydyn yn chwilio am unigolion brwdfrydig ag eginol er mwyn paratoi gwlâu a gwlâu bync, sicrhau bod yr ystafelloedd o safon uchel a cynorthwyo gyda gwaith lletygarwch cyffredinol y Gwersyll.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Ceren Roberts (Cyfarwyddwr Gwersyll Caerdydd) ar 02920 635672 neu cerenroberts@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.