Teitl y Swydd: Prif Gogydd
Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Graddfa 3: £24,336 (Pwynt 1) - £27,190 (Pwynt 4)
Lleoliad: Gwersyll Glan-llyn
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, trefnus a gweithgar i arwain ein tîm arlwyo. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddianus fod yn gyfrifol am goginio, rhedeg y gegin a gorychwyliaeth staff. Bydd y prif gogydd yn cydweithio efo’r Dirprwy Rheolwr Cegin i gynllunio bwydlenni apelgar, yn ogystal a sicrhau bod cydymffurfiaeth gyda phob agwedd o reolau hylendid bwyd.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Huw Symonds (Rheolwr Gwersyll) ar 01678 541000 neu huwsymonds@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Dyddiad Cau – 05 Rhagfyr 2023
Dyddiad Cyfweld – i’w gadarnhau
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.