Teitl y Swydd: Cynorthwyydd Cegin a Glanhau (nifer o swyddi)
Math o gontract: Swyddi barhaol, llawn amser neu rhan amser
Graddfa: Graddfa 1: £11.30 yr awr / Llawn amser: £20,566 (Pwynt 1)
Lleoliad: Gwersyll yr Urdd, Llangrannog
Amdanom ni
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.
Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20.
Y Swydd
Mae angen uniolgion egnïnol a brwdfrydig sydd â diddordeb mewn arlwyo/glanhau i weitho fel rhan o dîm hyblyg i gyfrannu at lwyddiant y Gwersyll.
Faint o oriau gwaith sydd ar gael?
- Nifer o contractiau ar gael – o 7 awr i 35 awr yr wythnos. Rydym yn edrych am staff llawn amser a rhan amser.
Beth yw’r diwrnodau gwaith?
- Rydym ar agor 7 diwrnod yr wythnos ac felly gallu fod yn hyblyg gyda diwrnodau gwaith. Mae Dydd Llun, Mercher a Gwener yn brysur gyda glanhau ystafelloedd ac mae prydiau bwyd yn cael eu gweini bob dydd.
Beth yw’r oriau gwaith?
- Mae modd bod yn hyblyg ac rydym yn hapus i drafod unrhyw anghenion o amgylch oriau ysgol/meithrin eich plant neu unrhyw gofynion eraill.
- Mae nifer o staff yn gweithio: 7.30-3.30, 9.00-5.00 neu 12.00-8.00
Oes hyfforddiant yn cael ei ddarparu?
- Nid oes angen unrhyw cymwysterau na hyfforddiant penodol. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar gyfer y swydd a safle. GalL hyn gynnwys Hyfforddiant Hylendid Bwyd er enghraifft.
Oes angen bod yn rhugl yn y Gymraeg?
- Gallwn ddarparu gwersi Cymraeg i unrhywun sydd eisiau gwella eu sgiliau siarad Cymraeg.
Am fwy o fanylion darllenwch y swydd ddisgrifiad yma, neu cysylltwch â Rhiannon Flynn (Rheolwr Lletygarwch) ar 01239 652 148 neu rhiannon@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.