Teitl y Swydd: Goruchwyliwr Cegin
Math o gontract: Parhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 2: £22,459 - £24,763 y flwyddyn
Lleoliad: Gwersyll yr Urdd Llangrannog
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Goruchwylio ac arwain tîm o staff i gyflawni’r holl ddyletswyddau sy’n gysylltiedig â gwasanaeth arlwyo a glanhau Llangrannog. Paratoi a choginio bwyd i’r safonau gofynnol fel y nodir gan y Rheolwr adran a’r Prif Gogydd. Cydymffurfio gyda’r gweithdrefnau a safonau sydd wedi eu sefydlu, arwain a dangos esiampl.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Lowri Jones, Cyfarwyddwr y Gwersyll ar 01239 652 140 neu lowri@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Dyddiad Cau – 30ain o Awst
Dyddiad Cyfweld – i'w gadarnhau
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.