Teitl y Swydd: Rheolwr Safle Gwersyll yr Urdd Llangrannog
Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 6: £32,074 (Pwynt 1) - £36,425 (Pwynt 4)
Gweithredol 7: £37,519 (Pwynt 1) - £42,404 (Pwynt 4) : gyda cymhwyster NEEBOSH
(I gael eich apwyntio ar raddfa 7 bydd rhaid meddu â cymhwyster NEEBOSH. Os nad oes gen y deiliaid llwyddiannus y cymhwyster yma yna byddwch yn cael eich apwyntio ar raddfa 6 ble bydd modd gweithio tuag at y cymhwyster yn ystod 6 mis cyntaf eich cyflogaeth ac yna cael dyrchafiad i raddfa 7 ar gwblhad llwyddiannus y cymhwyster).
Lleoliad: Gwersyll yr Urdd Llangrannog
Amdanom ni
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.
Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20.
Y Swydd
Mae Gwersyll yr Urdd Llangrannog yn chwilio am berson wybodus a datryswr problemau naturiol i ymuno a’r tîm rheoli fel Rheolwr Safle. Bydd y person llwyddiannus yn gyfrifol am, rheoli prosiectau cyfalafol hir dymor yn ogystal a chynllunio a threfnu gwaith cynnal a chadw yn y tymor byr. Rheolwr safle fydd yn gyfrifol am sicrhau gwasanaethau allanol.
Am fwy o fanylion darllenwch y swydd ddisgrifiad yma neu cysylltwch â Lowri Jones (Cyfarwyddwr Gwersyll Llangrannog) ar 01239 652144 neu lowri@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Dyddiad Cau – 21.08.2022
Dyddiad Cyfweld – wythnos rhwng y 22 – 26.08.2022
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.