Prentis Arwain Gweithgareddau Awyr Agored, Lefel 2 (Glan-llyn)

Teitl y Swydd:  Prentis Arwain Gweithgareddau Awyr Agored

Math o gontract:  13 mis, llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa:  Prentis Blwyddyn 1 (£12,394 y flwyddyn)

Lleoliad: Gwersyll Glan-llyn

 

Prif bwrpas y swydd:

Cyfle i unigolyn gyda diddordeb yn yr Awyr Agored ymgymryd â phrentisiaeth o fewn Gwersyll yr Urdd, Glanllyn

 

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

 

Yr Urdd

O chwaraeon i’r celfyddydau, gwaith dyngarol i wirfoddoli mae’r Urdd yn cynnig profiadau unigryw, cyffrous a bythgofiadwy drwy gyfrwng y Gymraeg i ieuenctid Cymru. Boed rhain yn brofiadau yn ein gwersylloedd, yn y gymuned neu yn yr ysgol, maent yn rai gwerthfawr sy’n galluogi ein haelodau i wneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymunedau ac i ddatblygu ystod eang o sgiliau bywyd.

Gwersyll Glan-llyn

Wedi ei leoli ar lannau Llyn Tegid ym Mharc Cenedlaethol Eryri, Mae Gwersyll Glan-llyn yn arbenigo mewn gweithgareddau awyr agored o ansawdd uchel. Mae’r gweithgareddau yma i gyd yn cael eu harwain gan staff cymwys a phroffesiynol a rydym eleni yn cynnwys cyfleon prentisiaeth i unigolion brwdfrydig ymuno a’r tîm.

 

Y Swydd

Nod y swydd fydd cynnig profiadau, cymwysterau a phrofiad i ddatblygu sgiliau i fod yn hyfforddwr/wraig ysbrydoledig a chadarnhaol yn y maes Awyr Agored.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin Davis sef Pennaeth Prentisiaethau ar catrindavis@urdd.org neu Iwan Rhys sef Rheolwr Adran Weithgareddau Glan-llyn ar iwanrhys@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais Prentisiaethau’r Urdd ar e-bost at prentisiaeth@urdd.org

 

Dyddiad Cau: 03/05/24

Dyddiad Cyfweld: w/c 13/05/24

 

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.