Prentis Arwain Gweithgareddau a Prentis Arwain Gweithgareddau Sgio, Lefel 2

Teitl y Swydd:  Prentis Arwain Gweithgareddau a Prentis Arwain Gweithgareddau Sgio, Lefel 2

Math o gontract:  13 mis, llawn amser (35 awr yr wythnos), dechrau 08/01/2023

Graddfa:  £10,840 y flwyddyn / £5.96 yr awr

Lleoliad:  Gwersyll yr Urdd, Llangrannog

 

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

 

Y Swydd

Nod y swydd fydd i weithio ar weithgareddau amrywiol Gwersyll yr Urdd Llangrannog, gan hyfforddi i arwain nifer o weithgareddau amrywiol drwy y gyfrwng y Gymraeg.

Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Adran Brentisiaethau : catrindavis@urdd.org neu ffionevans@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at prentisiaeth@urdd.org

 

Dyddiad Cau – 13/12/2023

Dyddiad Cyfweld – i’w gadarnhau

 

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.