Prentis Digwyddiadau Chwaraeon, Lefel 2

Teitl y Swydd:  Prentis Digwyddiadau Chwaraeon, Lefel 2             

Math o gontract:  Swydd penodol hyd at 13 mis, llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa:  Cyflog Prentis Blwyddyn 1: £12,394               

Lleoliad:  Llanishen, Caerdydd                

Dyddiad Cau:  5ed Ionawr 2025            

Dyddiad Cyfweld:  i'w gadarnhau     

Swydd Ddisgrifiad:  Cliciwch yma 

 

Y Swydd

Nod y swydd fydd i gynorthwyo swyddogion digwyddiadau Chwaraeon i gynyddu’r gyfranogaeth plant a phobl ifanc mewn digwyddiadau chwaraeon rhanbarthol a genedlaethol, drwy'r cyfrwng y Gymraeg.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Tom Birkhead, Rheolwr Digwyddiadau Chwaraeon Cenedlaethol.

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd â'r Ffurflen Cyfle Cyfartal ar e-bost at prentisiaeth@urdd.org

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.

 

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith ar bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.