Côd post y safle yw CF10 5AL
Mae Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 wedi'i leoli ym Mae Caerdydd, gyda’r Maes wedi ei leoli o gwmpas Plass Roald Dahl, ac yn cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru a’r Senedd.
Mae opsiynau trafnidiaeth yn cynnwys trenau, bysiau, a’r rhwydwaith ffyrdd sy’n cynnwys yr M4, A470, A4232 a’r A48 (M) fel y prif lwybrau i gyrraedd Caerdydd.
Gyrru i’r Bae
Mae amryw o ddewisiadau o feysydd parcio cyhoeddus ym Mae Caerdydd, gyda llefydd penodol ar gael ar gyfer pobl ag anableddau/defnyddwyr Bathodynnau Glas:
-
Maes Parcio Q Park (Lle ar gael i wefru ceir trydan)
Bydd rhai o’r ffyrdd o gwmpas Canolfan y Mileniwm ar gau yn ystod wythnos yr Eisteddfod felly gadwch lygad ar yr arwyddion.
Cofiwch na chaniateir cŵn nac anifeiliaid eraill ar Faes yr Eisteddfod ac eithrio cŵn cymorth.
Teithio o Ganol Dinas Caerdydd i’r Bae
Cofiwch nad oes meysydd parcio penodedig yn cael eu darparu gan yr Urdd eleni, felly rydym yn annog pawb i ddefnyddio trafnidiaeth cyhoeddus lle’n bosib, ac i rannu cerbydau os ydych yn penderfynu gyrru.
Y newyddion da yw bod mwy nag erioed o ddulliau o gyrraedd Maes yr Eisteddfod eleni!
Beic
Mae modd llogi beic drwy gynllun Nextbike gyda lleoliad i gasglu/gadael beic ar gael ar Faes yr Eisteddfod.
Mae manylion pellach ynglŷn â sut mae’r cynllun yn gweithio, ynghyd a’r prisiau ar gael ar eu gwefan yma.
Mae elusen Cardiff Pedal Power yn llogi beiciau yn y brifddinas. Mae manylion pellach o ran lleoliadau a phrisiau ar gael ar eu gwefan yma.
Trên
O orsaf drenau Caerdydd Canolog
Daliwch y trên o Blatfform 6 i orsaf Heol y Frenhines. Bydd angen newid trên yng ngorsaf Heol y Frenhines i gyrraedd y bae. Bydd y daith gyfan yn cymryd llai na 15 munud!
O orsaf drenau Heol y Frenhines
Mae trenau Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg bob 12 munud o orsaf Heol y Frenhines i Fae Caerdydd gan eich gollwng o fewn pellter cerdded hwylus i’r fynedfa i’r Maes. Mae’r trenau'n gadael Heol y Frenhines o Blatfform 1 a'r trên cyntaf yn gadael am 06:36 yn y bore, a’r trên olaf yn ôl yn gadael Bae Caerdydd am 23.54 yr hwyr. Gallwch wirio’r union amseroedd ar wefan Trafnidiaeth Cymru neu ar yr App.
Bws
Mae Cwmni Bws Caerdydd yn darparu nifer o wasanaethau o’r ddinas i Fae Caerdydd gan gynnwys:
6 - Bae Caerdydd, Gorsaf Ganolog, Gorsaf Heol y Frenhines, Parc Cathays (Bob 10 munud yn fras)
8 - Bae Caerdydd, Dumfries Place, Heol Crwys, Ysbyty’r Waun
Ceir manylion llawn ac amserlenni manwl ar eu gwefan.
Mae cwmni NAT yn rhedeg gwasanaethau i’r Bae, gan gynnwys:
X8 – Bae Caerdydd, Stryd Westgate, Heol Caerphilly, Thornhill.
Ceir manylion llawn ac amserlenni manwl ar eu gwefan.
Nodyn: gall fod gwasanaeth cyhoeddus cyfyngedig ar wyliau banc a phenwythnosau
Am wybodaeth bellach ynglŷn â thrafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal, cysylltwch â Traveline Cymru 0800 464 0000
Cwch/Bws Dŵr
Mae cwmni Cwch Caerdydd/Cardiff Boat yn teithio yn rheolaidd o ganol y ddinas i’r bae ac yn ôl, gan gychwyn o Barc Bute drws nesaf i Dŷ Te Pettigrew (CF10 1BJ) ac yn gorffen y daith wrth Faes yr Eisteddfod yn y bae. Mae manylion pellach gan gynnwys amserlen a phrisiau ar gael ar wefan y cwmni.
Mae cwmni AquaBus yn teithio yn rheolaidd o ganol y ddinas i’r bae ac yn ôl, gan gychwyn o erddi Castell Caerdydd ac yn gorffen y daith wrth Faes yr Eisteddfod yn y bae. Mae’r cwch yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae manylion pellach gan gynnwys amserlen a phrisiau ar gael ar wefan y cwmni.