Yn dilyn llwyddiant y llynedd, bydd y cwrs hwn sydd yn cael ei redeg ar y cyd rhwng TRAC ac Urdd Gobaith Cymru yn dychwelyd. Yn ystod y penwythnos fe fydd cyfle i fynychwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol a dawnsio traddodiadol yn ogystal a chymryd rhan yng ngweithgareddau cyffrous Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn.
Mae’r tiwtoriaid i gyd yn arbenigo mewn cyflwyno cerddoriaeth a dawnsio gwerin i blant o bob oed. Ar gyfer y gweithgaredd offerynnol, mi fyddai rywfaint o gefndir offerynnol yn sicr o helpu gan y bydd y tiwtoriaid yn cyflwyno alawon gwerin i’w dysgu o’r glust ond i rheiny sydd ddim yn offerynwyr mi fydd digon o gyfle i ganu a chlocsio.
Mi fydd cyfle i gymryd rhan mewn canŵio / cwrs rhaffau uchel / bowlio a dringo yn ystod y penwythnos hefyd.
Gellir trefnu trafnidiaeth (am bris ychwanegol) os bydd digon o alw
Ni fydd athrawon yn mynychu ond fe fydd staff Glan-llyn yn gofalu am y plant tra eu bod yn y Gwersyll
I archebu, llenwch y ffurflen drwy ddilyn y linc isod, neu cysylltwch â'r gwersyll
01678 541 000 glan-llyn@urdd.org
Ffurflen archebu