Am y cylchgrawn

Mae IAW yn gylchgrawn hollol unigryw i helpu pobl ifanc Cymru i ddysgu Cymraeg, ac yn cynnwys ystod eang o bynciau cyfoes sy'n berthnasol i bobl ifanc. Mae darllenwyr IAW yn aml yn cyfrannu at y cylchgrawn trwy ysgrifennu llythyron neu gynnig gwaith neu brosiectau o'r ysgol, sy'n gyfle gwych i ymarfer eu sgiliau llafar, ysgrifenedig a golygyddol yn y Gymraeg.

I bwy mae IAW?

Mae IAW yn addas i bobl ifanc CA3 a CA4 sy'n dilyn y Cwricwlwm Cymraeg ail-iaith hyd at TGAU.

Beth sy'n gwneud IAW yn gylchgrawn i ddysgwyr?

Mae taflenni gwaith yn y cylchgrawn yn cyd-fynd â gofynion y Cwricwlwm ac yn cefnogi datblygiad academaidd disgyblion trwy gynnwys apelgar, cyfoes.

Sut all IAW gefnogi dysgu?

Mae IAW yn gylchgrawn sy'n cefnogi dysgu yn y dosbarth a thu hwnt. Yn y cylchgrawn mae taflenni geirfa, patrymau iaith a gweithgareddau i'r athro. Mae’r amrywiaeth yng nghynnwys y cylchgrawn bob mis yn dilyn themâu misol ac yn cadw’r cynnwys yn ffres a pherthnasol i ddysgwyr ifanc. Mae croeso i athrawon gynnig IAW yn gyflawn yn eu hystafell ddosbarth ddigidol, ei fewnosod ar eu gwefan neu ei ddosbarthu'n ddigidol, mae croeso i chi wneud hynny hefyd.