Mae'r Adran Chwaraeon yn cynnig tri llwybr gwrifoddoli, sef Llwybr Efydd, Arian ac Aur. O fewn bob llwybr mae cyfleoedd i ennill cymwysterau chwaraeon, derbyn cit yr Urdd, y cyfle i ymuno â fforymau chwaraeon yr Urdd a derbyn mentora gan staff a phrentisiaid yr Urdd. Wrth symud o un llwybr i'r nesaf, bydd mwy o gyfrifoldebau a chyfleoedd ar gael i chi fel gwirfoddolwr.

Sut i ymuno â'r llwybrau:

Ar ôl dechrau gwirfoddoli, bydd cyfle i chi wneud cais i ymuno â'r llwybrau gwirfoddoli. 

O fewn bob llwybr mae cyfleoedd i ennill cymwysterau chwaraeon, derbyn cit yr Urdd, y cyfle i ymuno â fforymau chwaraeon yr Urdd a derbyn mentora gan staff a phrentisiaid yr Urdd. Wrth symud o un llwybr i'r nesaf, bydd mwy o gyfrifoldebau a chyfleoedd ar gael i chi fel gwirfoddolwr.

Llwybr Efydd

Isafswm oriau gwirfoddoli llwybr efydd:

  • 15 awr
  • Rhaid cwblhau oleuaf 10 awr o oriau gwirfoddol mewn clwb chwaraeon yr Urdd yn wythnosol

Beth sy'n cael ei gynnig ar y llwybr efydd?

  • Hyfforddiant Gallaf Arwain neu cyfatebol
  • Hyfforddiant Cynnwys Anabledd y DU Lefel 1
  • Gweithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
  • Crys-t a siwmper gwirfoddoli yr Urdd
  • Derbyn mentora gan staff/prentisiaid yr Urdd wrth hyfforddi
  • Cyfleoedd i wirfoddoli yn nhwrnameintiau chwaraeon yr Urdd

Rôl gwirfoddolwr efydd

  • Cynorthwyo hyfforddwyr yr Urdd mewn clybiau a gweithgareddau chwaraeon

Llwybr Arian

Isafswm oriau gwirfoddoli llwybr arian:

  • 30 awr
  • Rhaid cwblhau oleuaf 20 awr o oriau gwirfoddol mewn clwb chwaraeon yr Urdd yn wythnosol

Beth sy'n cael ei gynnig ar y llwybr arian?

  • Cynnwys y llwybr Efydd
  • Hyfforddiant Diogelu Plant
  • Hyfforddiant cwrs arwain chwaraeon penodol
  • Mentora gan staff/prentisiaid yr Urdd wrth hyfforddi
  • Cyfleoedd i wirfoddoli yn nhwrnameintiau chwaraeon yr Urdd

Rôl gwirfoddolwr arian

  • Cynorthwyo hyfforddwyr yr Urdd mewn clybiau a gweithgareddau chwaraeon
  • Cynllunio ac arwain gweithgareddau mewn clybiau chwaraeon
  • Parodrwydd i roi cymorth i wirfoddolwyr efydd os oes angen

Llwybr Aur

Isafswm oriau gwirfoddoli llwybr aur:

  • 45 awr
  • Rhaid cwblhau oleuaf 30 awr o oriau gwirfoddol mewn clwb chwaraeon yr Urdd yn wythnosol

Beth sy'n cael ei gynnig ar y llwybr aur?

  • Cynnwys llwybr efydd ac arian
  • Hyfforddiant Lefel 1 Chwaraeon Penodol
  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf
  • Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Awtistiaeth
  • Derbyn mentora gan staff/prentisiaid yr Urdd wrth hyfforddi
  • Cyfleoedd i wirfoddoli yn nhwrnameintiau chwaraeon yr Urdd
  • Hyfforddi yn annibynnol

Rôl gwirfoddolwr aur

  • Cynorthwyo hyfforddwyr yr Urdd mewn clybiau a gweithgareddau chwaraeon
  • Cynllunio ac arwain gweithgareddau mewn clybiau chwaraeon
  • Parodrwydd i roi cymorth i wirfoddolwyr efydd ac arian os oes angen
  • Hyfforddi clybiau chwaraeon yn annibynnol