Paid â Bod Ofn! 100 diwrnod tan Eisteddfod yr Urdd

Gyda 100 diwrnod i fynd tan Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024, mae’r Urdd yn falch o lansio partneriaeth gyda PABO (Paid â Bod Ofn), prosiect newydd sy’n cael ei arwain gan y band Eden.

Mi fydd gweledigaeth PABO o ‘ddysgu, deall a dathlu’ yn cael ei blethu i’r ŵyl ieuenctid celfyddydol gydag ystod o weithgareddau. Eleni fydd blwyddyn gyntaf PABO ar faes yr Eisteddfod wrth lawnsio cyfres gychwynnol digwyddiadau’r bartneriaeth.

Fel rhan o’r bartneriaeth â PABO, bydd Eisteddfod yr Urdd hefyd yn cynnig llwyfan ’Sa Neb Fel Ti’ yn ardal Nant Caredig – ardal lles a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 trwy gymorth gan Goleg Brenhinol y Seciatryddion. Yn tynnu ar deitl un o ganeuon Eden, bydd llwyfan ’Sa Neb Fel Ti’ yn lle i unigolion berfformio heb orfod cystadlu, i ddathlu nhw eu hunain a’r hyn sy’n eu gwneud yn unigryw.

O dan faner PABO, bydd Eden hefyd yn cynnal gweithdai a sesiynau gydag artistiaid eraill ar y Maes trwy gydol yr wythnos. Bydd yn gyfle i fynychwyr wrando ar drafodaethau am hunan hyder a dysgu am fod yn gyfforddus yn dy groen dy hun drwy’r celfyddydau.

At hyn, bydd Eden yng ngofal noson PABO yng Ngŵyl Triban ar nos Sadwrn, 1 Mehefin ym Meifod gydag artistiaid cyffrous yn cymryd rhan, yn ogystal â pherfformio eu caneuon newydd i gloi’r ŵyl. Mi fydd hon yn noson i bobl o bob oed ddod at ei gilydd i fwynhau ac i ddathlu cysyniad PABO.

Dywedodd Eden: “Mae’r Urdd wedi chwarae rhan blaenllaw ym mywydau’r dair ohonom ac felly mae’n wych gallu cyhoeddi’r bartneriaeth rhwng yr urdd â PABO. Y gobaith ydy lledaenu negeseuon a gwerthoedd PABO gyda chynulleidfaoedd amrywiol yr Urdd gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ddysgu, deall a dathlu nhw eu hunain”

Yn unol ag ymgyrch yr Eisteddfod i fod yn fwy hygyrch, bydd yr ŵyl hefyd yn cynnig gofod diogel i ymwelwyr niwroamrywiol ac awtistig ar y Maes, lle bydd amryw o weithgareddau yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos.

Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd: “Mae Eisteddfod yr Urdd mor falch o gyhoeddi'r bartneriaeth hon gyda PABO, wrth i ni ymrwymo i greu maes hygyrch a chroesawgar i bawb. Mae’r gwaith mae Eden yn ei wneud wrth siarad am iechyd meddwl, niwroamrywiaeth, a hunanhyder yn bwysig tu hwnt, ac rydym yn edrych ymlaen at rannu’r negeseuon hynny gyda’n plant a’n pobl ifanc.” 

Mae Eden yn ffenomenon sydd efo ffans o bob oedran, a bydd rhywbeth i bawb ar faes Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai. Byddwn yn cydweithio ar arlwy Nant Caredig gyda PABO a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion i sicrhau bod gofod diogel tu hwnt i’r cystadlu, a lle i ddathlu'r hun sy’n dy wneud yn unigryw.”

Maldwyn fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2024, a gynhelir rhwng 27 Mai a 1 Mehefin. Dyma fydd y tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Maldwyn ers 1988 a bydd wedi’i leoli ar gaeau Fferm Mathrafal, ger Meifod.

I fod gyda’r cyntaf i glywed mwy am y bartneriaeth â Pabo, y lein-yp, tocynnau a newyddion Gŵyl Triban Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024, mae modd llenwi’r ffurflen yma.