Sgwrs Gyda Ella Davies

Prentis y Mis - Mai 2021 

 

Mae Ella Davies yn byw ac yn gweithio yn ardal Rhondda Cynon Taf. Mynychodd Ysgol Gyfun Cwm Rhondda cyn penderfynu ymgeisio i fod yn brentis Arwain Gweithgareddau gyda’r Urdd.

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?

Ar ôl treulio blwyddyn yn y chweched, roedd yn glir i fi mai nid hynny oeddwn i eisiau ei wneud rhagor. Roedd y cyfle wedi codi ac awgrymodd un o fy athrawon fy mod i yn gwneud cais. Rydw i wastad ‘di dwli ar chwaraeon a rydw i wedi eisiau gweithio gyda phlant ifanc ers erioed; felly roedd y cyfle yma yn wych i fi. Roeddwn i eisiau ennill cymwysterau a gweithio ar yr un pryd, mewn amgylchiadau rydw i’n eu mwynhau – dyw’r brentisiaeth heb siomi!

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?

Rydw i’n hoffi fy mod i yn gweithio gyda phlant ifanc a’u helpu i ddatblygu eu sgiliau chwaraeon. Mae’n bleser gweld plant yn mwynhau a dysgu sgiliau newydd yn y clybiau rydw i’n eu hyfforddi.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Fi wastad ‘di eisiau cael swydd ble mae siarad cymraeg yn cael ei weld fel ‘bonus points’, ond gyda’r swydd yma rydw i’n mor falch fy mod yn gallu siarad Cymraeg drwy’r dydd! Fi’n dwli ar siarad Cymraeg ac felly mae darparu clybiau chwaraeon yn yr iaith i blant ifanc yn wych.

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Rydw i ‘di gweld newid enfawr yn fy hyder ers cael y swydd, roedd siarad â phobl newydd yn codi ofn arna’i ond ar ôl setlo yn y gwaith rydw i wedi creu lot o ffrindiau newydd! Y tro cyntaf oedd rhywun wedi gofyn i fi neud galwad dros y ffon, roeddwn i mor nerfus, ond erbyn hyn, fi’n digon hyderus i ffonio rhieni, ysgolion a lleoliadau.

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Rydw i’n awyddus iawn i barhau gyda swydd o fewn yr Urdd neu swydd sydd yn debyg iawn, fi wedi eisiau gweithio fel athrawes ysgol ers bod yn ifanc iawn ond hoffwn i aros o fewn y sector Chwaraeon. 

Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.

Y prif ddyletswydd sydd gen i yw i gynllunio a darparu sesiynau chwaraeon ar gyfer plant a sicrhau eu bod yn datblygu sgiliau newydd. Mae angen i fi cwblhau gwaith cwrs hefyd, felly mae rhaid i fi reoli fy amser yn gywir i sicrhau fod gen i ddigon o amser i gwblhau’r tasgau sydd gen i. Mae lot fawr yn mynd ymlaen y tu hwnt i’r clybiau i sicrhau eu bod yn llwyddiannus!

 

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Profiad gwych + bythgofiadwy!