PRENTIS Y MIS - RHAGFYR 2019

Sgwrs gyda Hanna Lois

 

Mae Hanna yn ferch ffarm o ardal Cefn Meiriadog ger Llannefydd. Fe aeth i Ysgol Brynhyfryd ac yna i wneud gradd yn y maes chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor. Ar ôl iddi raddio, roedd Hanna wedi meddwl mynd syth i wneud cwrs TAR, ond ar ôl gweld y cyfle i wneud prentisiaeth Gwaith Ieuenctid gyda'r Urdd, fe phenderfynodd mynd amdani er mwyn derbyn nifer o brofiadau amrywiol. Mae’r cyfle wedi rhoi blas iddi ar waith tebyg i athrawes gan weithio gyda phlant a phobl ifanc o ddydd i dydd, ac wedi bod o gymorth iddi wrth ystyried ei ddyfodol. Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am waith Hanna fel prentis Gwaith Ieuenctid Sir Ddinbych! 

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy waith fel prentis Gwaith Ieuenctid?

Dwi’n cael mwynhad mawr yn gweld plant a phobl ifanc yn chwerthin wrth fwynhau sesiynau ond y clybiau dawnsio dwi’n eu cynnal ac yn eu hyfforddi ydi’r sesiynau dwi’n eu mwynhau fwyaf sŵn i’n deud. Credaf fod hyn gan fy mod yn cael defnyddio fy sgiliau coreograffi dawns a dysgu’r holl syniadau a thechnegau dwi wedi ei ddysgu dros yr holl flynyddoedd o wersi dawnsio fy hun i’r plant a phobl ifanc. Hefyd dwi’n cael gweld y dawnswyr ifanc yn blodeuo fel perfformwyr ac yn datblygu eu sgiliau dawnsio o wythnos i wythnos.

Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau.

Yn syml, rwy’n aelod o staff cyfeillgar gyda gwên ar fy wyneb sy'n trefnu ac yn cynnal amrywiaeth o sesiynau chwaraeon, celf a chrefft a gemau gwahanol mewn amryw o leoliadau yn ystod ac ar ôl oriau ysgol gyda phlant a phobl ifanc oedrannau 8 i 25.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Yn ogystal â’r ffaith fod y gallu i siarad Cymraeg yn agor drysau galôr i mi ar gyfer y dyfodol, rwy'n teimlo'r fwyaf cyfforddus yn siarad fy iaith gyntaf yn y gweithle. Mae’r gallu i ddarparu fy ngwaith drwy gyfrwng y Gymraeg i ddisgyblion ail iaith yn rhan bwysig o fy rôl fel prentis gwaith ieuenctid. Dwi’n falch fy mod yn gallu hybu pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg a rhoi cymorth i ddysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg wrth sgwrsio yn fy nghwmni.

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Wel, fel merch ffarm, mae ffarmio yn bendant yn un o fy mhrif ddiddordebau gan gynnwys marchogaeth a dangos fy ngheffylau a niadell o ddefaid Balwens mewn sioeau amaethyddol. Dwi hefyd yn berson creadigol, dawnsio bob cyfrwng ers roeddwn yn dair ac wedi cystadlu yn yr Urdd ar Genedlaethol yn flynyddol gyda’r dawnsio disgo/hip-hop/stryd yn ogystal â dechrau clocsio a chystadlu yn Eisteddfod Llanrwst eleni. Dwi’n aelod o Aelwyd Llangwm a CFFI Uwchaled. Dwi’n brysur hefyd yn defnyddio fy niddordeb celf a chrefft yn fy musnes bach newydd - Geiriau Melys.

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Dwi’n bendant yn fwy hyderus yng nghwmni pobl ifanc ac mae fy ngallu i gyfathrebu yn gyfforddus efo nhw a’u rhieni wedi gwella. Dwi’n teimlo mod i’n gallu defnyddio’r gwaith pedagogeg dysgais yn y brifysgol yn fy sesiynau chwaraeon gan amlygu’r elfen o hwyl.

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Hwyl, Diddorol, Chock-a-block!