Canlyniadau Creu Gwefan 2011

Cystadleuaeth 72. Creu Gwefan Blwyddyn 6 ac iau (unigol neu grwp)


1. Disgrifiad / Cysylltiad â'r Thema : Gwybodaeth am ardal Clocaenog

 Mari Lewis, Ysgol Carreg Hirfaeon, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion

 Cyfeiriad y wefan: www.cwmann.btck.co.uk

2. Grwp Ysgol Clocaenog, Rhuthun

 Cyfeiriad y wefan: www.einbro.co.uk

3. Grace Stangroome – Adran Maenclochog, Penfro

 Cyfeiriad y wefan: www.stangroome.co.uk\hanesoybooth

 

Ymdrech dda gan y cystadleuwyr i gyd - mewn oes lle mae gwefannau yn hawlio sylw pobl ifanc.  Cynlluniwyd y gwefannau i drosglwyddo’r wybodaeth am y pwnc drwy lun, testun a hefyd fideo.

Roedd y chwe ymgeisydd wedi paratoi strwythur y safle ond roedd ambell i dudalen heb ei gwblhau. Cystadleuaeth agos rhwng yr enillwyr a chrëwyd creu tudalennau taclus – dewiswyd lliwiau cefndirol i greu tudalennau deniadol a oedd yn rhwydd i’w darllen. 

Roedd gan y tri gwefan llwyddiannus arddull cyson yn eu strwythur ac roedd hi’n rhwydd mordwyo o bob tudalen.

Crëwyd tudalennau sy’n lawr-lwytho’n gyflym sy’n profi bod y lluniau yn briodol.  Dewiswyd maint a lliw'r testun i fod yn glir i bob darllenwr a chadw diddordeb yn y cynnwys.

Ceir sawl cyswllt da i wefannau allanol sy'n berthnasol.

Cip olwg diddorol iawn o froydd y cystadleuwyr.

 

 

Cystadleuaeth 73. Creu Gwefan Bl. 7, 8 a 9 (unigol neu grŵp)


1. Phoenix Williams, Gorllewin Morgannwg

 Cyfeiriad y wefan: http://yfro.yolasite.com

2.   Morgan Lewis, Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion

 Cyfeiriad y wefan: www.rygbi.btck.co.uk

O ystyried y pwyslais a roir i dechnoleg o fewn cwricwlwm ein hysgolion, braidd yn siomedig oedd derbyn dau wefan yn unig yn y gystadleuaeth hon.  Wedi dweud hynny roedd y ddau yn agos iawn  gyda thudalennau taclus - lliwiau cefndirol wedi dewis i greu tudalennau deniadol sydd yn rhwydd i’w darllen. 

Yn anffodus nid oedd sgiliau iaith cystal â’r sgiliau technoleg gwybodaeth yn y cyntaf ac roedd yr ail safwe yn canolbwyntio ar y tîm lleol mwy na’r fro -  ond gwefan ymarferol iawn.

Y ddau wefan yn cynnig golwg diddorol ar eu hardaloedd gyda :-

  • Strwythur cyson, lliwiau deniadol ac arddull wedi dewis yn addas  - fideo wedi mewnosod yn hybu’r diddordeb
  • Cysylltiadau allanol wedi’u dewis sy’n berthnasol iawn i’w hardaloedd.
  • Botymau mordwyo yn gyson drwy’r safweoedd ac yn rhwydd i’w defnyddio.