Ymgyrchoedd

Yn Haf 2020, mae’r Gemau Olympaidd a Paralympaidd yn cael eu cynnal yn Tokyo, Japan. Mae Adran Chwaraeon yr Urdd yn awyddus i ddefnyddio’r ysbrydoliaeth hon i gael eich ysgolion a’u teuluoedd i fod yn rhan o’r ymgyrch yma drwy fod yn egnïol ac adeiladu arferion iachus parhaol trwy 2020.

 

FIDEO IONAWR IACHUS 2020

Cytuno i fod yn fwy iach yn 2020? Pam ddim fod yn rhan o #IonawrIachus2020 a chwblhau'r fideo fel teulu?

Cliciwch a mwynhewch fod yn heini a dysgu mwy am y gemau Olympaidd a Paralympaidd. Rhannwch y bwrlwm gyda ni: #ionawriachus2020