Sgwrs gyda Jasmine Morgan

Prentis y Mis, Tachwedd 2021

 

Dyma Jasmine Morgan, sy’n brentis ‘Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant’ drwy bartneriaeth gyffrous rhwng y Mudiad Meithrin a’r Urdd. Mae Jasmine yn gweithio yng Nghylch Meithrin Llanbedr. Dyma sgwrs cawsom am ei phrentisiaeth a’i gwaith yn y feithrinfa.

O ble ti’n dod?

Rwy'n dod o Lanbedr, Gwynedd, Gogledd Cymru, rwy'n gweithio yng Nghylch Meithrin Llanbedr.

I ba ysgol wnes ti fynychu?

Fe wnes i fy lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor Dolgellau ond cyn hyn, mynychais Ysgol Ardudwy.

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Mudiad Meithrin?

Penderfynais wneud y cwrs oherwydd mae'n rhywbeth yr wyf wedi bod eisiau ei wneud ers amser maith a dyma'r cyfeiriad cywir ar gyfer fy swydd ddelfrydol, sef cynorthwyydd meithrinfa. Roeddwn i hefyd yn teimlo y byddai gwneud fy nghwrs gyda’r Mudiad Meithrin yn y Gymraeg yn fy helpu i fod yn fwy hyderus gyda'r iaith Gymraeg.

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?

Y peth gorau am fy swydd yw rwy’n gallu helpu'r plant i ddatblygu drwy wahanol ffyrdd o chwarae. Rwyf hefyd yn gweld y plant yn datblygu'n barod ar gyfer eu pennod nesaf yn eu bywyd. Mae gwneud fy mhrentisiaeth yn fy helpu i ddeall popeth sydd ei angen i wybod am fy swydd, ac yn fy helpu i ddeall fy rôl swydd yn fanylach.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Mae gwneud fy mhrentisiaeth yn y Gymraeg yn fy helpu i fod yn fwy hyderus gyda'r iaith Gymraeg. Mae hefyd yn fy helpu i ddysgu mwy am yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig hefyd.

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Pan nad ydw i'n gweithio, rwy'n hoffi treulio amser gyda fy mab a'r teulu, gwrando ar gerddoriaeth, mynd am dro a darllen llyfr yn y bath.

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Mae gwneud y brentisiaeth wedi fy helpu i ddatblygu mwy o wybodaeth am ddatblygiad plant drwy chwarae.

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Ar ôl i mi gwblhau fy mhrentisiaeth, hoffwn barhau gyda’n swydd a gweithio yn y feithrinfa llawn amser. Hoffwn hefyd helpu mwy yn y Cylch.

Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau.

Pan rwy’n dechrau gweithio mae'n rhaid i mi fod yn siŵr bod ychydig o weithgareddau a theganau yn barod i’r plant a bod popeth arall sydd ei angen yn barod ar gyfer y diwrnod. Mae'n rhaid i mi sicrhau bod y plant i gyd yn ddiogel ac yn hapus. Rwyf hefyd yn gwneud 1:1 ar adegau lle mae'n rhaid i mi sicrhau bod y plentyn yn ddiogel a bod ganddynt yr help sydd ei angen drwy gydol y dydd.

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth mewn 3 gair!

Profiad gwych + diddorol.

Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?

Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n gallu gwneud y brentisiaeth oherwydd fy mab, ymrwymiadau eraill a hefyd fy niffyg hyder yn yr iaith Gymraeg. Unwaith nes i weithio allan amserlen, rwyf wedi gallu treulio amser gyda fy mab, a hefyd gwneud fy ngwaith. Wrth i mi barhau gyda fy nghwrs, rwy'n teimlo fy mod wedi datblygu yn fawr ac wedi cael fy hyder yn ôl ychydig.