Ein gobaith ydy paratoi profiadau perthnasol a chofiadwy i'r bobl ifanc fel y byddant yn mwynhau'r presennol ac, ar un un pryd, y byddant yn datblygu'n bersonau cytbwys annibynnol, yn ddinasyddion caredig, cyfrifol. Mae'r Gwersyll yn anelu at ddatblygu ei darpariaeth addysgol yn barhaus, gan weithio mewn ymgynghoriad gyda’n preswylwyr, ysgolion, y gymuned, yr Urdd a staff y Gwersyll.

Datblygu plant a phobl ifanc sydd yn...

Ddinasyddion Cyfrifol

Yn ganolog i brofiadau’r unigolyn yn y Gwersyll mae datblygu sgiliau cymdeithasol a rhyngbersonol, y  profiad o gynnig cefnogaeth i eraill ac o  fanteisio ar gefnogaeth cyd- fyfyrwyr a staff y Gwersyll. Mae’r sgiliau allweddol hyn yn paratoi’r unigolyn ar gyfer chwarae rhan allweddol mewn cymdeithas ehangach.

Unigolion Hyderus

Mae'r gweithgareddau yn y Gwersyll yn canolbwyntio ar ennyn hyder unigolion a'u cynorthwyo i ddeall pwysigrwydd cadw'n iach a diogel ac i fanteisio ar fyw bywyd i'r eithaf! Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau a heriau newydd yn y Gwersyll yn newid ymagweddau gan ymestyn gorwelion yr unigolyn. Trwy gwrdd â'r heriau hyn fe fydd plant a phobl ifanc yn dysgu i addasu a chyfaddawdu a thrwy hyn ennyn yr hyder sy'n gwbl allweddol i ddatblygiad crwn yr unigolyn.

Dysgwyr Effeithiol

Mae ein cyrsiau yn gosod sylfaeni cadarn ar gyfer hybu ymagweddau cadarnhaol sydd yn cymell yr unigolyn i ddysgu sgiliau newydd ac i ymgymryd â heriau am y tro cyntaf. Fe fydd unigolion yn datblygu sgiliau trwy gyfrwng gweithgareddau heriol ac yn cael eu hannog i arbrofi gyda sialensiau newydd

 

Cysylltwch â ni

Hoffech chi wybod mwy? Beth bynnag eich ymholiad rydym yn hapus iawn i sgwrsio.

Cysylltu