Dewch o hyd i atebion i rai o gwestiynau mwyaf cyffredin am ymweliad â Gwersyll Glan-llyn neu Wersyll Glan-llyn Isa'.

Mae'r dogfennau mwyaf diweddar y gwersyll sydd yn ateb y cwestiynau mwyaf cyffredin ynglŷn â'ch ymweliad yma i'w gweld yn yr adran 'Dogfennau Defnyddiol'.

Pa eitemau mae fy mhlentyn angen ar gyfer yr ymweliad i Glan-llyn? 

Yma yn y Gwersyll mae amrywiaeth eang o offer technegol arbenigol ar gael i’w fenthyg yn ystod eich cwrs. Yr offer sydd ar gael yw siwt wlyb, dillad glaw, sachau cario ayyb. Os oes gennych chi offer technegol personol mae croeso i chi ddod â’r eitemau yma gyda chi. Byddwch angen hefyd...

  • 2 bâr o hen dreinyrs
  • 2 bâr o drowseri cynnes (dim jîns)
  • 2/3 top cynnes (fleece os yn bosib)
  • 2/3 crys T (ceisiwch osgoi cotwm)
  • Dillad isaf
  • Gwisg/shorts nofio
  • 2 dywel
  • Het a menig cynnes (gaeaf)
  • Dillad glaw 
  • Dillad nos
  • Sach gysgu 
  • Gorchudd gobennydd
  • Offer ymolchi
  • Bag bin ar gyfer dillad gwlyb
  • Os ar gwrs iaith/ daearyddiaeth – pensil a phapur
  • Esgidiau glaw/ esgidiau cerdded

Oes yna eitemau na chaniateir? 

Ni ddylai eich plentyn ddod a’r canlynol

  • MP3 neu ipod
  • Cyllell boced
  • Ysgrifbin felt
  • Gemau fideo neu unrhyw ddyfais ddrud (ipad, cyfrifiadur tabled ac ati)
  • Gwm cnoi
  • Chwistrellydd aerosol
  • Tybaco, alcohol neu unrhyw gyffur nas ceir ar bresgripsiwn (dylid nodi unrhyw gyffur sydd ar bresgripsiwn ar y dystysgrif iechyd)
  • Ffôn symudol- Dylid cael caniatâd arweinydd y cwrs cyn dod a ffôn symudol i’r gwersyll. Gall gwersyllwyr ddefnyddio ffôn y swyddfa os oes angen.

Ni fyddwn yn gyfrifol am ddiogelwch neu unrhyw ddifrod i’r eiddo uchod os daw plant a nhw i’r gwersyll.

Oes modd i fy mhlentyn ffonio adref? 

Os gwelwch yn dda, peidiwch â threfnu bod eich plentyn yn ffonio adref ar ddechrau’r cwrs. Os nad ydych yn clywed gennym, gallwn sicrhau'r bod eich plentyn yn hapus ac yn saff. Fe fyddwn yn cysylltu â chi yn syth petai broblem feddygol neu hiraeth am adref yn codi. Os oes gennych neges i’ch plentyn mae croeso i chi adael neges gyda’r dderbynfa (01678 541 000) neu drwy e-bost glan-llyn@urdd.org. Fe wnawn sicrhau'r bod y neges yn cael ei basio ymlaen.

Beth yw’r drefn os yw fy mhlentyn â phroblem tra yn y Gwersyll?

Mae aelod o staff yr Urdd yn bresennol yn ystod arhosiad eich plentyn. Felly os oes gan eich plentyn unrhyw broblem neu ofid bydd staff wrth law i helpu ac i ddelio gyda unrhyw fater yn syth.