Corfforaethol

Mae adnoddau a chyfleusterau o’r radd flaenaf yn y Gwersyll ar gyfer cyrsiau a chyfarfodydd o bob math. Mae gennym brofiad o gynnal amryw o ddigwyddiadau - o gyfarfodydd bach i gynhadleddau a digwyddiadau corfforaethol. 

glanlyn-area.jpg

Ardal leol

Canolfan breswyl aml-weithgaredd yw Gwersyll yr Urdd Glan-llyn. Saif y Gwersyll ar lan Llyn Tegid ger y Bala rhyw filltir o bentref Llanuwchllyn yng nghysgod yr Aran ac oddi fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri.

Am fwy o wybodaeth am yr ardal leol cliciwch yma

stafell_gyfarfod.jpg

Ystafelloedd cyfarfod

Mae gan y Gwersyll nifer o ystafelloedd cyfarfod sydd yn amrywio mewn maint a phwrpas defnydd. Gall ein deg ystafell gyfarfod dderbyn rhwng 10 a 250 o ymwelwyr, sy'n golygu y gallwn gynnal cyfarfodydd bach neu gynhadleddau o bob maint. Mae'r cyfleusterau sydd ar gael yn cynnwys taflunydd, teledu gyda chysylltiadau i gyfrifiadur a chynhadledd fideo a ffôn.

glanlyn-canteen.jpg

Lletygarwch

Gallwn gynnig lletygarwch i gyfarfodydd a digwyddiadau o bob maint, o 5 i 250. Mae cyfleusterau te a choffi ar gael drwy’r dydd, a gallwn ddarparu arlwyaeth ar gyfer unrhyw gofynion dietegol.

glanlyn-beds.jpg

Llety

Mae gan y Gwersyll 55 o ystafelloedd gwely “en-suite” sydd yn cysgu hyd at ddau, pedwar, chwech neu wyth.

Gallwn dderbyn hyd at 250 o wersyllwyr ar y tro, gydag oddeutu 40 o’r gwlâu hyn wedi eu penodi ar gyfer arweinyddion.

Rhannir y rhain ar draws 5 bloc llety, a all gael ei rannu i 7 ardal llety unigol.

glanlyn-activities.jpg

Gweithgareddau

Mae'r Gwersyll yn cynnig ystod eang o weithgareddau, dan arweiniad staff cymwys. Os ydych yn awyddus i gael cwrs adeiladu tim, fe allwn blethu hyn i mewn i thema ein gweithgareddau. 

Ewch i gweithgareddau am restr gyflawn o'r hyn sydd ar gael yng Nglan-llyn.

Edrychwch ar ein Gweithgareddau