PRENTIS Y MIS - CHWEFROR 2020

Sgwrs gyda Cai Powell-Roberts

 

Mae Cai yn dod o bentref bychain o’r enw Talwrn, yn nghanol Ynys Môn sydd ‘yng nghanol lem byd!’ Fe wnaeth fynychu Ysgol Gynradd y Talwrn - ysgol bach gyda 32 disgybl i gyd! Yna fe wnaeth fynychu Ysgol Gyfun Llangefni. Mae Cai bellach yn brentis chwaraeon yn ardal Ynys Môn.

Pam wnaethost ti ddewis ymgeisio i wneud prentisiaeth gyda'r Urdd?

Rydw wastad wedi mwynhau chwaraeon, ac hefyd hyfforddi, felly roeddwn yn teimlo fod y prentisiaeth yma yn gyfle grêt i fi gael profiadau newydd. Hefyd, rydw i'n hoffi rhoi cyfleoedd newydd i blant, efallai doedd ddim o gwmpas pan roeddwn i eu oedran nhw.

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd?

Cael mynd o gwmpas ysgolion ac ardaloedd gwahanol yn gwneud sesiynau a gweithgareddau hwyl, yn yr iaith Gymraeg. Hefyd, rydw yn mwynhau gweld y plant yn cael hwyl yn y sesiynau, mae yn golygu fod ni fel hyfforddwyr yn gwneud rhywbeth yn dda.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Mae yn meddwl llawer. Cymraeg yw’r iaith rydw wastad wedi siarad efo fy nheulu a ffrindiau i gyd, felly mae'n braf cael gwneud fy ngwaith i gyd drwy’r iaith Gymraeg. Rwy'n teimlo bod y prentisiaeth yma yn helpu i wella fy Nghymraeg, a fydd o fod yn fantais ar gyfer fy nyfodol.

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Mae wedi rhoi llawer mwy o hyder i mi. Rydw rŵan wedi arfer siarad o flaen llawer o bobl ac hyfforddi llawer o blant. Mae hyn wedi rhoi hyder i mi os fyswn rhywbryd eisiau siarad o flaen llawer o bobl yn fy mywyd personol. Hefyd, mae’r prentisiaeth wedi fy helpu i ddysgu y ffyrdd gwahanol o hyfforddi plant.

Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau.

Rwy'n mynd o gwmpas ysgolion a chymunedau yn rhedeg gwahanol glybiau chwaraeon. Felly mae fy nyletswyddau yn cynnwys ffonio’r ysgolion i drefnu'r clybiau yma, bwcio y canolfan os oes angen un, trefnu a chynllunio y sesiwn ac hefyd delio gyda pres.

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Rwy'n chwarae pêl droed rhan fwyaf o ddiwrnodau, ac yn teithio llawer ar gyfer gemau ar Ddydd Sadwrn. Rydw hefyd yn mwynhau treulio amser gyda fy ffrindiau a trio mynd i ffwrdd i wledydd gwahanol mor aml ag y gallai.

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Hwyl! Diddorol! Campus!