Mae ein lleoliad ar arfordir Gorllewin Cymru yn creu yr awyrgylch delfrydol i sicrhau bod grwpiau yn mwynhau, cymdeithasu a dysgu yn ddiogel.

Ein prif fantais yw ein hyblygrwydd i greu rhaglen arbennig i weddu ag anghenion unrhyw grŵp. 2023_07_24_urdd_llangranog_1759.jpg

Ystafelloedd Cyfarfod

Mae gennym naw ystafell gynhadledd/cyfarfod, mawr a bach yn cynnwys Neuadd Chwaraeon anferth.  Mae’r adnoddau sydd ar gael yn cynnwys tri bwrdd gwyn rhyngweithiol, uwch-daflunydd, siartiau ysgrifennu a thechnoleg band llydan, diwifr.

Gallwn gynnig cadeiriau, byrddau o'ch dewis, llwyfan ac adnoddau sain.

Gwefan.jpg

 

Bwyd

Darparir prydau ar gyfer pob angen dietegol boed ar ffurf pryd tri chwrs, bwffe wedi ei weini neu pecynnau bwyd i gerddwyr.

Ym Mis Tachwedd a Rhagfyr mae modd dewis bwydlen Nadoligaidd gyda chinio rhost Nadolig! 20221209_111849.jpg

 

Gweithgareddau

Mae yna ystod eang o weithgareddau sydd yn cael eu rhedeg gan staff proffesiynol gan gynnwys sgïo, eirfyrddio, gwylltgrefft, cerdded arfordir, cwrs rhaffau uchel, wal ddringo, saethyddiaeth a llawer mwy, maent i gyd yn ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau adeiladu tîm. Mae'n bosib trefnu gweithgareddau eraill am gost ychwanegol megis syrffio, canwio, hwylio, taith cychod

all_2018_08_16_urdd_llangranog_9211.jpg

Llety

Rydym yncynnig llety i dros 500 o bobol mewn ystafelloedd o safon gyda graddfa 4 seren gan Croeso Cymru. Mae 62  ystafell  ensuite ar  ffurf ystafelloedd bync sy’n cysgu rhwng 6 a 8 person, 8 ystafell ensuite ‘twin’  a 16 ystafell cyffredin gyda bloc cawodydd. 014_agorau_Urdd.jpg

Gweithgareddau