Er bod y rhan helaeth o athrawon a rhieni yn cydnabod fod cyrsiau preswyl yn cynnig profiadau amhrisiadwy i blant a phobl ifanc deallwn fod nifer yn bryderus am drefnu’r fath dripiau yn yr hinsawdd gymdeithasol bresennol. Rydym yn deall y pryderon yma ac wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau pob cefnogaeth i ysgolion trwy gydol y broses. Mae strwythurau pendant mewn lle sydd yn sicrhau diogelwch plant, athrawon ac oedolion yn ystod eu harhosiad.

Rydym yn gweithredu'r camau yma i sicrhau diogelwch yn ystod gwrs preswyl

  • System CCTV
  • Goruchwyliwr Nos
  • Rheolwr ar ddyletswydd- Mae un o dîm rheoli'r Gwersyll ar alwad drwy'r nos.
  • Panel cod ar ddrysau blociau llety- Mae'n rhaid nodi cod i mewn i'r panel er mwyn datgloi drws blaen y bloc llety
  • Cymorth Cyntaf- Staff cymwysedig a chymorth cyntaf ar bob gweithgaredd, yn ogystal â'r rheolwyr sydd ar alwad dydd a nos. Hefyd mae Ystafell Cymorth Cyntaf ar gael ar gyfer cadw meddyginiaeth dan glo.
  • Ffurflenni Iechyd – Cyfle i rieni ddatgelu unrhyw broblem / anghenion arbennig (gweler y ffurflen amgaeedig)
  • Diogelwch Tân- Caiff dril tân ei gynnal gyda phawb sydd yn cyrraedd y Gwersyll
  • Radio cyfathrebu- Mae staff gweithgareddau, swyddfa a rheolwyr mewn cysylltiad cyson â'i gilydd drwy radio.
  • Asesiadau Risg ar gyfer pob gweithgaredd
  • Swyddog NEBOSH llawn amser sydd yn gyfrifol am Iechyd a Diogelwch