Gweithgareddau

Mae llu o weithgareddau dŵr a thir ar gael, gyda pob un yn cael eu harwain gan ein staff cymwys a phroffesiynol.

Dringo

Dringo

Mae gennym ddwy wal ddringo yn y Gwersyll ar gyfer datblygu sgiliau sylfaenol a chael profiad o’r grefft. Wrth ddringo cewch gyfle i ddatblygu a deall yr angen i ymddiried yn eraill.

Addas i:

Cynradd Grwpiau a theuluoedd Oedolion Uwchradd
Cwrs Rhaffau

Cwrs Rhaffau

Cyfle i chi brofi eich nerfau wrth i chi sefyll 30 troedfedd uwchben y ddaear. Mae nifer o elfennau gwahanol i’r cwrs rhaffau. Mae’n gyfle da i chi ddatblygu sgiliau asesu risg.

Addas i:

Cynradd Grwpiau a theuluoedd Oedolion Uwchradd
Saethyddiaeth

Saethyddiaeth

Cynigir arweiniad cychwynnol ym maes saethyddiaeth yn ystod y weithgaredd newydd yma. Byddwch yn derbyn hyfforddiant ar sut i lwytho a saethu eich saeth mewn awyrgylch rheoledig a diogel

Addas i:

Cynradd Grwpiau a theuluoedd Oedolion Uwchradd
Adeiladu Rafft

Adeiladu Rafft

Tybed a fyddai gennych chi ddigon o ddychymyg i adeiladu rafft i’ch dal chi a holl aelodau eich tîm? Prawf yw hwn ar eich gallu i gyfathrebu yn effeithiol ac ar eich sgiliau gweithio fel tîm.

Addas i:

Cynradd Grwpiau a theuluoedd Oedolion Uwchradd
Canwio

Canwio

Gall hyn amrywio o daith ar y llyn mewn canŵ agored tandem gyda ffrind, neu ar gyfer ychydig o hwyl fe ellir clymu’r canŵs at ei gilydd er mwyn creu un rafft fawr ar gyfer chwarae gemau.

Addas i:

Cynradd Grwpiau a theuluoedd Oedolion Uwchradd
Cerdded Afon

Cerdded Afon

Gyda defnydd o sawl afon a cheunant cyffrous ar ein carreg drws, dyma gyfle i brofi eich sgiliau asesu risg, gwaith tîm a hunan hyder wrth ddringo rhaeadrau, neidio i byllau a chropian drwy dyllau.

Addas i:

Cynradd Grwpiau a theuluoedd Oedolion Uwchradd
Bowlio Deg

Bowlio Deg

Cewch gyfle i herio’ch ffrindiau i weld pwy ddaw i’r brig yn ein Canolfan Bowlio Deg. Gweithgaredd wych i bob oedran

Addas i:

Cynradd Grwpiau a theuluoedd Oedolion Uwchradd
Ceufadu

Ceufadu

Dyma gyfle i unigolion ddatblygu eu sgiliau ceufadu, yn ogystal â sgiliau hunan hyder wrth gymryd rhan mewn gemau anturus a gwlyb.

Addas i:

Cynradd Grwpiau a theuluoedd Oedolion Uwchradd
Cyfeiriannu

Cyfeiriannu

Yma byddwch yn datblygu eich sgiliau map, gwaith tîm a chyfathrebu wrth ddilyn cwrs cyfeiriannu o amgylch y gwersyll.

Addas i:

Cynradd Grwpiau a theuluoedd Oedolion Uwchradd
Datrys Problemau

Datrys Problemau

Mae pob tasg wedi ei chynllunio fel bod rhaid i chi weithio gyda’ch gilydd fel grŵp. I lwyddo, rhaid i bob grŵp gyfathrebu a chydweithio. Mae dychymyg da yn hanfodol ar gyfer y weithgaredd hon, a digon o hiwmor rhag ofn i bethau fynd o chwith.

Addas i:

Cynradd Grwpiau a theuluoedd Oedolion Uwchradd
Padlfyrddio

Padlfyrddio

Gweithgaredd hwyliog sy'n amrywio o ddefnyddio padlfyrddau unigol a rhai ar gyfer grwpiau. Cyfle i unigolion ddatblygu eu sgiliau padlfyrddio a bod yn hyderus wrth sefyll ar y bwrdd.

Addas i:

Cynradd Grwpiau a theuluoedd Oedolion Uwchradd