Oes gen ti ddiddordeb gwneud dy cymwysterau Sgiliau Hanfodol trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog?

Mae gan HWB Sgiliau Hanfodol yr Urdd yr arbenigedd i gynorthwyo i  chi i lwyddo!

Beth yw'r HWB?

Mae’r Hwb yn cynnig cymwysterau a hyfforddiant pwrpasol yn y meysydd Cyfathrebu, Rhifedd a Llythrennedd Digidol drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae modd i unigolion weithio tuag at gymwysterau Sgiliau Hanfodol Mynediad 3 i Lefel 3, neu weithio i wella sgiliau wrth ymgymryd â rhaglen dysgu arall. 

I bwy mae'r HWB?

Mae’r Hwb yn agored i unigolion sydd eisiau cwblhau eu cymwysterau sgiliau hanfodol drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog.

Mae’r Hwb i ti os wyt ti...

· heb ymarfer dy Gymraeg ers cyfnod

· ond wedi defnyddio dy Gymraeg yn yr ysgol

· yn awyddus i ddatblygu dy Gymraeg

· gyda lefel da o Gymraeg

· yn siaradwr Cymraeg rhugl

Beth os ydw i ar raglen dysgu gyda darparwr arall? 

Mae’n bosib dy fod ar raglen dysgu gyda darparwr arall ac yn cwblhau sgiliau hanfodol fel rhan o dy fframwaith, os felly, gofynna i dy diwtor i gael gwneud y cymwysterau yn Gymraeg a’u cyfeirio atom ni! Lawr-lwythwch ddogfen wybodaeth YMA i ddysgu mwy am beth allwn ni gynnig.

Os nad wyt ti ar raglen ddysgu ond eisiau uwch-sgilio, cysyllta â ni i drafod ymhellach: hwbsgiliau@urdd.org neu defnyddia’r ffurflen diddordeb.

Beth mae'r rhaglen ddysgu yn ei gynnwys?

Bydd y gweithdai byddi yn eu mynychu yn ddibynnol ar dy lefel cyfredol a’r lefel rwyt yn ei anelu amdano. Bydd dy diwtor yn creu cynllun dysgu sydd wedi ei deilwra i dy anghenion a’ch arddull dysgu. Dyma’r hyn galli di ddisgwyl i fod yn rhan o dy brofiad:

- Asesiadau cychwynnol

- Cynllun dysgu unigol

- Mynediad at weithdai rhithiol

- Sesiynau 1:1

- Mynediad at adnoddau, recordiadau o sesiynau ac e-portffolio

- Tasgau gwaith annibynnol sy’n cael eu hasesu ac adborth yn cael ei ddarparu

- Tasg dan reolaeth a phrawf cadarnhaol (gan gynnwys tasgau ymarfer, dibynnol ar y lefel darged)

- Tystysgrifau

Ble mae'r HWB?

Mae’r rhan fwyaf o weithdai’r HWB yn digwydd yn rhithiol ac felly yn agored i unigolion o bob rhan o Gymru. 

 

Lawr-lwythwch becyn wybodaeth gyflawn drwy glicio ar y botwm 'Gwybodaeth i Ddysgwyr' isod. 

GWYBODAETH I DDYSGWYR