Arweinyddion a Rhieni

Edrychwn ymlaen at groesawu eich plentyn. Mae’r adran hon yn rhoi atebion i gwestiynau cyffredinol ynglŷn ag arhosiad eich plentyn.

Er bod y rhan fwyaf o rieni ac athrawon yn gwerthfawrogi bod cyrsiau preswyl yn cynnig profiadau amhrisadwy i blant a phobol ifanc, rydym yn deall bod nifer yn pryderu wrth drefnu’r fath gyrsiau yn yr hinsawdd bresenol. Rydym yn deall y pryderon hyn ac wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ysgolion yn cael pob cymorth trwy gydol y broses.

Beth fydd angen ar eich plentyn? 

  • Sach gysgu, nid yw'r Gwersyll yn darparu dillad gwely.
  • Dylech sicrhau fod enw’r plentyn ar bob dilledyn.
  • Dillad nos, phethau ymolchi a thywel.
  • Dillad sbâr gan gynnwys siwmper gynnes ac anorac neu got law.
  • Pâr o esgidiau sy’n addas i gerdded

NID oes angen i’ch plentyn ddod â...

Clystog mae’r Gwersyll yn darparu dillad clustog ond bydd angen dod a sach gysgu.

Eiddo personol. Rydym yn argymell na ddylai eich plentyn ddod ag eiddo personol drud, ee: ipods / ffônau clyfar / gemau fideo. Nid yw’r Gwersyll yn gyfrifol am unrhyw eiddo personol.

Ble fydd fy mhlentyn yn cysgu?

Mae ein hystafelloedd gwely yn cysgu hyd at 6 o bobol. Ceir ystafell ymolchi a gwres canolog ymhob ystafell. Sicrheir bod eich plentyn yn gwybod ble i fynd os oes angen cymorth yn ystod y nos. 

Beth os oes gan fy mhlentyn unrhyw anghenion bwyd?

Mae’r Gwersyll yn darparu tri pryd bwyd y dydd - brecwast, cinio, a swper. Just Perfect Catering sy’n gyfrifol am ddarparu ein gwasanaeth arlwyo, felly os oes gan eich plentyn anghenion arbennig e.e. alergedd i gnau, diet gluten free, diabetig, dim cynnyrch llaeth, rhowch wybod inni pythefnos o flaen llaw fel y gallwn drefnu bwydlen addas.  Cofiwch nodi hyn ar y Ffurflen Iechyd hefyd.  Rydym yn cynnig bwydlen sy’n addas i lysieuwyr. 

Beth os oes gan fy mhlentyn broblem yn ystod ei arhosiad?

Mae aelod o staff yr Urdd yn bresennol 24 awr yn ystod arhosiad eich plentyn. Felly os oes gan eich plentyn unrhyw broblem neu ofid bydd staff wrth law i helpu ac i ddelio gyda unrhyw fater yn syth.

Am fwy o wybodaeth cyffredinol ynglyn â’r Gwersyll cliciwch yma