Sgwrs gyda Tiffany Colton Edwards

Prentis y Mis, Mawrth 2023

Mae Tiffany o Gaernarfon ac wedi mynychu Ysgol Syr Hugh Owen.  Mae Tiffany yn brentis trwy’r Urdd ar gwrs Gofal Plant Lefel 3 wedi ei leoli yng Nghylch Meithrin Seiont a Pheblig ac yn gweithio tuag at gwblhau sgiliau hanfodol rhifedd a chyfathrebu gyda’r adran HWB Sgiliau Hanfodol. Dyma gipolwg ar fywyd Tiffany:

 

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda’r Urdd?

I gael gweithio tuag at fy lefel 3 i! Mae’n ffordd dda o weithio tuag at fy nghymhwyster wrth weithio.

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?

Rwyf yn mwynhau gweithio un i un ac yn mwynhau gweithio efo phawb. Rydw i'n mwynhau gweithio gyda phlant.  

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Rydw i'n hoffi gwrando ar gerddoriaeth a mynd am dro!

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Mae gwneud y brentisiaeth wedi helpu fi i fod yn fwy hyderus.

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Dwi’n gobeithio cael gweithio mewn ysgol.

Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau.

Rydw i’n gweithio efo’r plant yn y Meithrin ac un o fy mhrif ddyletswyddau yw neud yn siŵr bod y plant yn saff yn y gweithle ac yn cael y diwrnod gorau!  

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth mewn 3 gair!

Mwynhau, Mwynhau, Mwynhau!