Mae Gemma Williams yn dod o Ferndale ac yn gweithio fel cynorthwyydd dysgu yn ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn, ac yn gweithio’n benodol gyda phlant sydd â anghenion arbennig. Mae Gemma yn gwneud prentisiaeth chwaraeon gyda'r Urdd tra’n parhau gyda’i chyfrifoldebau yn yr ysgol.

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth Chwaraeon gyda'r Urdd?

Dwi’n hoff iawn o rygbi a helpais i gyda thîm y merched ar gyfer twrnament Aberystwyth cwpl o flynyddoedd yn ôl.  Mae’r prentisiaeth wedi rhoi’r cyfle i fi ddysgu mwy a gwella fy sgiliau.

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?

Dwi’n mwyhau dysgu rhywbeth newydd bob dydd yn ogystal â bod yna i helpu a rhoi gefnogaeth i’r plentyn dwi’n gweithio efo.  Mae’r brentisiaeth wedi rhoi’r cyfle i mi dysgu sgiliau newydd, dwi wedi helpu rhedeg clwb rygbi ar ôl ysgol ac hefyd yn defnyddio rhai gweithgareddau dwi wedi dysgu o’r brentisiaeth fel gemau iard amser cinio.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Mae yna llwyth o gyfleoedd i ddysgu beth bynnag rydych chi eisiau trwy Saesneg. Felly rydw i’n ddiolchgar i gael y cyfle i ddysgu a wneud y prentisiaeth trwy’r gyfrwng  Gymraeg.

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Dwi’n hoff iawn o rygbi a wylio’r gemau. Dwi hefyd yn hoffi cerdded y mynyddoedd lleol, neu mynd allan ar y beic.

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Mae’r prentisiaeth wedi helpu i godi fy hyder ac hefyd wedi rhoi cyfle i fi i wella fy hun.  Mae wedi rhoi’r hyder i mi edrych yn fwy ddwfn i fewn i bethau sydd o ddiddordeb i mi a dysgu fwy amdanynt, fel cwrs anghenion dysgu arbennig.

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Ar hyn o bryd, rydw i’n gweithio fel cynorthwyydd anghenion arbennig gyda awtistiaeth. Yn ogystal â’r brentisiaeth yma, dwi hefyd yn gwneud cwrs ‘Anghenion Dysgu Arbennig’ i wella fy ngwybodaeth a dealltwriaeth o’r mathau eraill o anawsterau dysgu. Mi fydd yn hyfryd un dydd, medru gweithio ar y sgiliau newydd dwi’n dysgu ar y ddau cwrs a chyfuno fy ngwybodaeth am chwaraeon ac arwain gweithgareddau chwaraeon gyda gweithio â phlant gyda ag anghenion dysgu arbennig.

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Diddorol, addysgol, heriol.