Urdd i Bawb - Hygyrchedd

 

Ein uchelgais dyddiol yw gwneud yn siwr ein bod ni fel safle ac fel staff yn gynhwysol a hygyrch i blant ac i oedolion o bob math. 

Mae yna ddogfennau defnyddiol i'r dde.

Mae rhain yn man cychwyn arbennig os ydych yn poeni am unrhyw elfen hygyrch o daith preswyl i Wersyll Llangrannog, neu angen mwy o wybodaeth cyn ymweld.

 

Mae gennym:

  • Ystafelloedd Hygyrch - mwy o wybodaeth: Datganiad Hygyrchedd Safle Llangrannog 
  • Ystafelloedd ymholci hygyrch
  • Lift cadair
  • Lift i ardaloedd cymdeithasol os nad yw ar lefel gwastad
  • Addasiadau i Weithgareddau'r Gwersyll - gweler y ddogfen Mynediad Gweithgareddau 

 

Mae bob aelod o staff wedi derbyn yr hyfforddiant canlynol fel rhan o'n ymrwymiad i fod yn holl-gynhwysol a hygyrch i bawb: ur staff have received the following training to ensure inclusivity and access for all:

  • Hyfforddiant Cynhwysol (Anableddau) - Chwaraeon Anabledd Cymru  
  • Hyfforddiant Chwarae a Chwaraeon Hygyrch  - Chwaraeon Anabledd Cymru  
  • Hyfforddiant Gwrth-hiliaeth - No Boundaries
  • Hyfforddiant LGBTQ - Gisda

 

Adborth:

"Roedd y tim staff i gyd yn gyfellgar ac yn barod i helpu bob amser - doedd dimbyd yn ormord wrth iddynt sicrhau bod unrhyw anghenion oedd gyda ni wedi diwallu. Roedd y ddau person daeth ar y taith gyda ni yn hapus a wedi ymlactio drwy'r ymweliad a roedd hyn o ganlyniad i'r staff arbennig." Elidyr Community Trust, Gorffennaf 2023

"Roedd y staff i gyd yn hyblyg a charedig. Roedd y daith yn hygyrch i blant ag anghenion ychwanegol (Uned Anghenion Dysgu) gyda newidiadau llety pan oedd angen, cardiau bwyd, dim problem os oedden yn hwyr i weithgaredd. Roedd pawb mor amyneddgar". Cefn Hengoed Community School, January 2024

"Fel arfer roedd y croeso a'r cymorth gan staff ar bob lefel yn rhagorol. Roedd un disgybl ag anghenion arbennig (cerebral palsy) wedi mynychu gyda ni ac roedd pob aelod o staff yn mynd o'u ffordd i gynnwys y disgybl yn y gweithagreddau - mae'n annheg tynnu sylw at un aelod o staff yn unigol ond mi oedd y staff ar y llethr sgio ac ar y cwads yn arbennig o dda am gynorthwyo hi. Diolch" Ysgol Bryn Onnen, Medi 2023

 

Os oes gennych unrhyw cwestiynau neu gofidion cysylltwch a ni!