PRENTIS Y MIS - HYDREF 2018

Tom Lewis 

 

‘Diddorol a Hwylus!’

 

Mae Tom yn enillydd haeddiannol i’r teitl Prentis y Mis - Mis Hydref. Mae wedi torri tir newydd fel un o’r pedwar prentis gwaith Ieuenctid cyntaf yr Urdd a chychwynnodd ym mis Medi.

Yn gyflym iawn mae Tom wedi ymgartrefi i’r swydd ac yn mwynhau gweithio gyda phlant a phobl ifanc ysgolion Cymraeg ac ail iaith. Un o Glydach yw Tom yn wreiddiol ac mae nawr yn gweithio i’r Urdd yn ardal Gorllewin Morgannwg. Roedd gweithio a hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i Tom.

“Y prif beth wnaeth wneud i mi ddewis prentisiaeth gyda’r Urdd oedd gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â gweithio mewn mudiad llwyddiannus ac adnabyddus.”

Mae Tom yn cael y cyfle i fynd mewn i ysgolion i hybu’r iaith Gymraeg ac i arwain mewn clybiau amser cinio ac ar ôl ysgol ac mae’n gwneud yr orau o’r cyfleoedd sydd ar gael iddo. Ar ôl ond 6 wythnos yn y rôl, mae Tom yn aelod allweddol i’r tîm.

“Mae yna ystod o gyfleoedd o fewn y brentisiaeth a phethau gwahanol i’w gwneud bob dydd. Rwyf wedi cael arweiniad clir a chefnogaeth gyda phopeth rwyf yn gwneud.”

Mae’r brentisiaeth wedi cael effaith positif iawn ar Tom ac mae o’n teimlo’n fwy hyderus yn ei waith.

“Rwyf wedi magu llawer mwy o hyder wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc, yn ogystal â dysgu a datblygu nifer o sgiliau hanfodol sydd angen o fewn y swydd.”

Yn ei amser hamdden, mae Tom yn mwynhau cefnogi tîm pêl-droed yr Elyrch a thîm Cymru. Mae hefyd yn mwynhau teithio a phrofi diwylliannau gwahanol.

Ffordd mewn i yrfa yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc yw’r cyfle gyda’r Urdd i Tom, ac mae o’n awyddus i barhau i wneud gwaith tebyg ar ôl cwblhau’r brentisiaeth.