Sgwrs gyda Katie Thomas

Prentis y Mis, Gorffennaf 2022

Mae Katie Thomas yn dod o Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin. Fe chafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Llanddowror, ac yna yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Taf. Mae Katie yn gwneud prentisiaeth Lefel 2 ‘Arwain Gweithgareddau’ fel rhan o ddarpariaeth prentisiaethau allanol yr Urdd. Dyma ychydig am ei gwaith a’i diddordebau!

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth Chwaraeon gyda'r Urdd?

Yn yr ysgol rydw i’n dysgu Ymarfer Corff i’r plant felly penderfynais i wneud y brentisiaeth gyda’r Urdd gan ei fod yn rhywbeth y gallwn i wneud yn y swydd. Rwyf hefyd wedi dysgu llawer o bethau newydd i’m helpu i ddarparu sesiynau o ansawdd uchel i’r plant.

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?

Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda’r plant - eu helpu i gyflawni eu nodau a’u hannog i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau er mwyn iddynt i ddysgu sgiliau newydd.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Mae’n golygu’r byd i mi allu gwneud y brentisiaeth trwy’r Gymraeg. Mae wedi rhoi’r hyder i mi ysgrifennu a dysgu yn y Gymraeg. Dwi wedi sylwi bod safon fy ngwaith ysgrifenedig Cymraeg wedi gwella wrth wneud y gweithdai, gwersi a siarad gydag eraill.

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Treulio amser gwerthfawr gyda fy mhlant a fy nheulu. Rwy’n mynd am lawer o deithiau cerdded ac rwyf wrth fy modd yn chwarae criced i dîm merched Talacharn.

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Mae gwneud y brentisiaeth wedi helpu gyda fy natblygiad trwy gyflawni fy ngwaith drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi rhoi mwy o hyder i mi ac mae wedi helpu fy mherfformiad o fewn y gwersi. Rwyf wedi gallu gwneud y brentisiaeth yma ochr yn ochr â fy rôl fel cynorthwyydd dysgu yn yr ysgol. Felly mae wedi fy annog i berfformio’n well ac mae hefyd wedi rhoi’r hwb i fy hyder.

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Rwy’n gobeithio rhoi'r hyn a ddysgais yn ystod y brentisiaeth ar waith yn yr ysgol a helpu ac addysgu fy sgiliau newydd.

Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.

I gefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad iddynt i ddysgu - gan gynnwys disgyblion sydd angen gwybodaeth arbenigol. Dwi’n gweithio’n agos gyda’r athro dosbarth, cynllunio ar y cyd a chaniatáu i bob disgybl datblygu a chael eu herio’n effeithiol.

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Anhygoel, hapus a phrofiad newydd!

Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?

Ar ôl gadael addysg llawn amser yn 16 mlwydd oed, penderfynais nad oeddwn i eisiau mynd yn ôl i’r ysgol neu i’r coleg. Roeddwn yn ddigon ffodus i ddod ar draws prentisiaeth mewn blynyddoedd cynnar a datblygiad plentyn. Fe wnaeth hyn fy helpu gyda fy natblygiad, ond hefyd fy helpu gyda fy hyder a’r iaith Gymraeg. Rwyf wedi bod yn gweithio mewn ysgolion am y 19 mlynedd diwethaf ac wedi gallu datblygu trwy fynd ar gyrsiau gwahanol a defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau dwi wedi meithrin yn y gweithle. Rwyf wedi mwynhau fy amser yn fawr ac ni allaf aros am y bennod nesaf yn fy mywyd.