Sesiynau Blasu

Os oes gennyt ddiddordeb mewn dilyn un o gyrsiau UrddSgilio ond eisiau syniad o beth i ddisgwyl, cysyllta er mwyn trefnu sesiwn blasu yn rhad ac am ddim! urddsgilio@urdd.org

Beth i ddisgwyl yn ein sesiynau blasu?

Chwaraeon

Erioed wedi arwain gweithgaredd chwaraeon / gweithgarwch corfforol? Neu eisiau yr hyder i wneud? Dyma sesiwn byr sy’n dangos sut i ddelio ag agwedd a chyfrifoldebau arweinydd. 

Cyfathrebu

Erioed wedi cynnal digwyddiadNeu eisiau perswadio rhywun i wneud rhywbeth? Dyma sesiwn byr syn dangos ambell dechneg perswadio i ti ddefnyddio ar lafar o ddydd i ddydd ac yn y gweithle. 

Cyflogadwyedd

Erioed wedi ceisio am swydd? Neu eisiau gwybod sut i baratoi dy CV cyntaf? Dyma sesiwn byr sy’n dangos sut i’w strwythuro a’i addasu yn ôl gofynion y swydd 

Llythrennedd Digidol

Erioed wedi creu cyflwyniad digidolNeu eisiau dysgu technegau creadigol? Dyma sesiwn byr syn dangos sut i ddefnyddio technegau creadigol i ddenu sylw eich cynulleidfa darged 

Datrys Problemau Rhif

Erioed wedi prynu rhywbeth ar gytundeb? Neu eisiau gwybod sut i ganfod y fargen orau? Dyma sesiwn byr sy’n dangos sut i gymharu contractau i wneud penderfyniad ar dewis gorau i ti. 

       

NÔL