Sgwrs gydag Ifan Thomas

Prentis Y Mis, Mai 2023

Mae Ifan Thomas yn dod o Bontyberem a mynychodd Ysgol Gynradd Pontyberem ac wedyn Ysgol Gyfun Maes Y Gwendraeth. Enwebwyd Ifan am Prentis y Mis oherwydd ei waith caled, yn cynnwys pawb ym mhob fforwm a gweithgaredd a llawer o bethau eraill. Mae Ifan yn gweithio tuag at Brentisiaeth Lefel 2 yn Arwain Gweithgareddau ac hefyd yn datblygu sgiliau Llythrennedd Digidol efo’r Hwb Sgiliau Hanfodol.  

 

Pam wnes di benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?  

Roedd yn gyfle da i weithio yn y byd chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am y brentisiaeth?  

Rwy’n joio amrywiaeth y swydd, y clybiau, helpu yn y gwyliau chwaraeon, ac rwyf wedi cwrdd â lot o bobl newydd.  

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?  

Mae’n grêt i allu  gweithio a gweld plant yn joio chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n dangos bod modd gwneud chwaraeon yn Gymraeg. 

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?  

Gwylio a chwarae pêl-droed, gwylio’r Scarlets, gwrando ar gerddoriaeth, mynd i’r gym, cymdeithasu a bwyta! 

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di? 

Mae wedi rhoi hyder i fi, gwella fy sgiliau Cymraeg ac wedi fy helpu i benderfynu fy mod i eisiau mynd i weithio ym myd addysgu. 

Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau Llythrennedd Digidol wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth?

Rwy’n cysylltu gyda rhieni ac athrawon dros e-bost a negeseuon testun, rwy’n cyfrannu at y fforwm prentisiaid. Hefyd, mae fy sgiliau rhifedd yn bwysig er mwyn gwneud yn siŵr bod yr un faint o blant gyda fi ar ddechrau a diwedd bob sesiwn! 

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth 

Rwyf wedi cael lle yn y brifysgol i astudio addysg gynradd, felly mewn 3 blynedd byddai’n chwilio am swydd dysgu! 

Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.  

Arwain sesiynau chwaraeon mewn ysgolion ar draws y sir, helpu mewn clybiau gwyliau chwaraeon, a gwneud gwaith cwrs! 

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!  

Lot o hwyl! 

Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?  

Fe wnes i gais am brentisiaeth oherwydd ‘mod i eisiau cymryd blwyddyn allan cyn mynd i’r brifysgol. Doeddwn i ddim yn siŵr beth o’n i eisiau gwneud, felly mae eleni wedi bod yn brofiad ffantastig, ac wedi fy helpu i sylweddoli fy mod i eisiau mynd i ddysgu! Roedd y trip i Ddulyn yn brofiad arbennig.  Mae’r profiadau wedi bod yn grêt hyd yn hyn, ac rwy’n falch iawn fy mod i wedi cael y cyfle.