Sgwrs gyda Melanie Glanville

Prentis Y Mis, Gorffennaf 2023

Mae Melanie yn dod o Gaerfyrddin a mynychodd Ysgol Uwchradd Y Frenhines Elisabeth yn y dref.  Mae Melanie yn brentis Gofal Plant Lefel 3 yn Gylch Hywel Dda yn Hendy-gwyn ar Daf. Mae wedi cael i enwebu am y rhesymau yma “Mae hi o hyd yn hapus a brwdfrydig mewn gweithdai, o hyd yn ymuno gyda thrafodaethau ac yn cyflawni eu gwaith o safon uchel ag o hyd cyn y gweithdy. Mae Melanie yn dangos hyblygrwydd trwy o hyd yn mynychu gweithdy, hyd yn oed pan mae hi hefo ei phlant ifanc adref yn ystod gwyliau'r ysgol.  Mae Melanie wedi bod yn dysgu Cymraeg, yn amser ei hun mae hi yn cyflawni cwrs Prentis Iaith a chwrs Mudiad Meithrin. Wythnos diwethaf arsylwais hi yn defnyddio brawddegau ac yn cyfathrebu yn dda iawn yn defnyddio Cymraeg hefo'r plant ag o flaen y fi” 

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda’r Urdd? 

Mae’r Urdd yn darparu cyrsiau dwyieithog gwych.  Mae hyn o fantais i fi gan fy mod i’n dysgu Cymraeg ac mae’r Urdd yn gefnogol iawn.  

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?  

Rydw i yn mwynhau helpu plant i ddatblygu eu dysgu trwy chwarae.  Mae’n rhywbeth mor hyfryd i weld y plant yn dysgu a chael llawer o hwyl wrth wneud. 

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti? 

Mae cwblhau'r brentisiaeth yma yn ddwyieithog wedi bod yn bwysig iawn i fi, rydw i’n dysgu Cymraeg tra gwneud y cwrs yma.  Mae’r dwyieithrwydd o’r brentisiaeth yma tyn wir helpu fi datblygu fy sgiliau. 

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith? 

Rydw i’n mwynhau mynd i gerdded ar y traeth a darllen. 

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di? 

Mae wedi helpu magu fy hyder yn siarad yn Gymraeg yn fy mywyd personol a hefyd yn y Cylch. 

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?  

Ar ôl cwblhau fy mhrentisiaeth rydw i’n gobeithio parhau yn y Cylch neu weithio o fewn sefydliad tebyg arall. 

Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau.  

Mae fy nyletswyddau yn y Cylch yn cynnwys:-  

Rhoi cymorth Arweinydd y Cylch efo bopeth. 

Helpu’r plant i chwarae, datblygu a dysgu o fewn amgylchedd diogel.  

Paratoi bwyd a diodydd i’r plant. 

Newid cewynnau 

Mynd a phlant ar deithiau o gwmpas yr ardal leol.  

Annog diogelwch ac amddiffyn y plant o fewn y Cylch. 

Arsylwi'r plant i helpu dysgu ac i fonitro datblygiad nhw. 

Tacluso ar ddiwedd y dydd. 

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth mewn 3 gair! 

Hwyl, Addysgol, Buddiol