PRENTIS Y MIS - EBRILL 2018

Jack Perkins 

 

Mae Jack yn disgrifio ei brofiad gyda’r Urdd fel ‘hwylus a heriol’. Ers dechrau ar ei brentisiaeth rydym wedi gweld Jack yn datblygu’n fawr. Nid yn unig yn ei sgiliau arwain gweithgareddau chwaraeon ond mae nawr yn gyfathrebwr cryf gyda’i sgiliau yn yr iaith Gymraeg wedi gwella’n fawr.

“Rwy’n falch iawn o allu ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydw i’n gallu teimlo fy iaith yn gwella pob dydd ac mae siarad iaith y Wlad pob dydd yn fy mhlesio’n fawr.”

Un o’r cymoedd ydy Jack, ac fe dyfodd i fyny yn Y Porth gan fynychu Ysgol Gynradd Llwyncelyn ac Ysgol Gyfun Cymer Rhondda. Yna fe aeth at Goleg y Cymoedd i astudio ar gyfer ei lefelau A. Mae Jack wedi mwynhau chwarae rygbi ers oedd yn 7 mlwydd oed pan ddechreuodd chwarae i dîm Aberllechau. Mae wedi chwarae i dimau o dan 16 a 18 y Gleision. Mae nawr yn chwarae i dîm cyntaf Beddau yn  y Bencampwriaeth Genedlaethol.

Wrth astudio yng ngholeg y Cymoedd fe wnaeth Jack dechrau hyfforddi  yng Nghlybiau'r Urdd. Pan sylweddolodd bod yn bosib iddo wneud gwaith tebyg yn llawn amser gyda’r Urdd a chwblhau prentisiaeth ar y un pryd, neidiodd yn syth am y cyfle.

Mae wrthi’n cwblhau ei flwyddyn gyntaf o hyfforddiant ble fydd yn ennill NVQ Lefel 2 yn Arwain Gweithgareddau. Mae’n gweithio o fewn Ardal Caerffili ac yn mwynhau rhedeg nifer fawr o glybiau chwaraeon i’r Urdd mewn ysgolion ac yn y Gymuned. Mae hefyd yn cydlynu rhaglen 5x60 Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.

“Rwy’n mwynhau galluogi’r plant i gael hwyl a gwella eu sgiliau chwaraeon trwy fynd i’r clybiau dwi’n rhedeg. Mae’n bleser gweld plant yn hapus ac yn gwella.”

Mae Jack yn gobeithio i ymgymryd â blwyddyn arall o hyfforddiant gyda’r Urdd. Mae ganddo hefyd diddordeb mawr mewn mathemateg ac yn gobeithio i allu cyfuno’r ddau faes yn ei yrfa yn y dyfodol.