Ydych chi’n sefydliad sy'n awyddus i ddatblygu sgiliau eich staff, neu'n chwilio am unigolion i ymuno â'ch gweithlu fel prentis?

Mae'r Urdd yn cynnig hyfforddiant am ddim drwy'r gyfrwng Cymraeg (neu’n ddwyieithog) i sefydliadau ledled Cymru trwy ein Cynllun Prentisiaeth. Mae’r cynllun wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, felly nid oes unrhyw gost i chi, nac i’r dysgwr.

Gall eich staff ymgymryd â phrentisiaeth wrth barhau gyda’u dyletswyddau presennol ac mi fyddwch chi fel cyflogwr yn elwa o’u sgiliau ychwanegol. Gallwn hefyd eich helpu i benodi prentis llawn amser yn eich sefydliad.

Mae prentisiaeth yn para rhwng 15 - 21 mis, yn ddibynnol ar y cwrs dewisol, ac ar ddiwedd y cyfnod yma fe fydd gan y prentis gymwysterau Lefel 2 neu 3 sy'n cael eu cydnabod o fewn y byd gwaith ledled y DU. 

Mae'r cynllun ar gael i'r sefydliadau canlynol:

  • Ysgol Gynradd, Uwchradd, Arbennig
  • Canolfan Hamdden
  • Cyrff Gwobrwyo Cenedlaethol
  • Clwb Chwaraeon
  • Canolfan Awyr Agored
  • Meithrinfa
  • Clwb Ieuenctid

Porwch drwy'r dogfennau isod i weld pa brentisiaethau a chymwysterau sydd ar gael.

 

Arwain Gweithgareddau

Prentisiaeth Lefel 2

DYSGU MWY
 

Datblygu Chwaraeon

Prentisiaeth Lefel 3

DYSGU MWY
 

Awyr Agored

Prentisiaeth Lefel 2 + 3

DYSGU MWY
 

Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Chwaraeon Ysgol ac Addysg Gorfforol

Prentisiaeth Lefel 3

DYSGU MWY
 

Gofal Plant

Prentisiaeth Lefel 2 + 3

DYSGU MWY
 

Gwaith Ieuenctid

Prentisiaethau Lefel 2 + 3

Dysgu mwy

 
Invalid entry
 
Polisiau