Rhwng 16 a 25? Eisiau bod yn rhan o gynhyrchiad newydd cyffrous Cwmni Theatr yr Urdd?
Rydym yn awyddus i greu ensemble i ddod a’r sioe wefreiddiol ac unigryw hon yn fyw!
Eleni mi fydd y cynhyrchiad yn un lliwgar, arbrofol a chwareus wedi ei greu a’i ddyfeisio ar y cyd yn dilyn ein Stafelloedd Sgwennu diweddar. Yn cynnwys cerddoriaeth fyw, gwisgoedd a phrops trawiadol, bydd y sioe yn un llawn hwyl ac egni sy'n teithio i gymunedau a neuaddau pentref led led Cymru, ac yn addas i gynulleidfa o bob oed!
Dyddiadau ymarfer: Rhaid bod ar gael ar gyfer dyddiadau Mawrth/Ebrill a Mehefin.
Gallwn fod yn hyblyg o ran dyddiadau’r Eisteddfod ym mis Mai.
Mawrth 23-29ain
Ebrill 26-28ain
Mai 30/31/1af (Rhagflas yng Ngwyl Triban Eisteddfod yr Urdd)
Mehefin 23-29ain
Perfformiadau: Does dim rhaid perfformio ym mhob sioe ond hoffen pe byddai pawb yn perfformio ym mis Mehefin ac o leiaf 2 berfformiad arall.
Mehefin 28 a 29 (Pawb)
Gorffennaf 4/5/6
Gorffennaf 18/19/20
Gorffennaf 25/26/27
Awst – Byddwn yn perfformio yn rhan o weithgaredd yr Eisteddfod Genedlaethol (yn y prynhawn)
Does dim cost i fod yn rhan o’r cwmni theatr. Byddwn yn darparu bwyd a llety.