Sgwrs gyda Sion Laugharne

Prentis y Mis, Ebrill 2023

Mae Sion yn dod o Gaerdydd a gafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Bro Edern. Mae e wrthi’n gweithio tuag at Lefel 3 Datblygu Chwaraeon ac hefyd yn cwblhau Sgiliau Hanfodol gyda’r HWB fel rhan o’i brentisiaeth. Mi fydd Sion yn mynychu’r daith i Kenya cyn bo hir, ac rydym yn disgwyl ymlaen i glywed am ei brofiadau!

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?  

Wnes i ddewis wneud prentisiaeth gyda’r Urdd oherwydd roeddwn i yn sicr doeddwn i ddim eisiau mynd i’r brifysgol. Mae gen i llawer o diddordeb yn chwaraeon, ac wrth weld bod yr Urdd yn gwneud prentisiaeth chwaraeon ac yn llwyddo yn wahanol cymwysterau , roedd hyn yn gyfle gwych i mi – gan fy mod yn ennill arian hefyd!

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?

Y peth mwyaf rydw i yn hoffi amdan fy mhrentisiaeth yw y cyfleoedd gwahanol sydd ar gael i mi. Y gwahanol cyrsiau a sgiliau rydw i wedi datblygu dros y ddwy mlynedd diwethaf. Hefyd, rydw i yn hoffi gweithio gyda plant a gweld y cynnydd a’r gwelliant mae nhw’n gwneud dros yr wythnosau. Hefyd, rydw i yn person sydd yn hoffi gweithio o fewn tîm llwyddiannus.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Dwi’n meddwl bod gwneud y brentisiaeth trwy’r iaith Gymraeg yn bwysig i mi oherwydd rydw i wedi tyfu lan gyda’r iaith ers i mi fod yn fach ac wedi dysgu trwy’r Gymraeg yn ystod fy amser yn yr ysgol.

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

-        Cerdded Ned, y ci!

-        Gwrando ar cerddoriaeth

-        Chwarae pêl droed

-        Gwylio gemau pêl droed a rygbi

-        Mynd mas gyda ffrindiau a chymdeithasu.

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Mae gwneud y brentisiaeth wedi helpu fy natblygiad i - rydw i'n teimlo llawer mwy hyderus yn cyfathrebu gan fy mod nawr yn cyfathrebu gyda ysgolion a rhieni yn aml. Mae gwneud y brentisiaeth yma wedi gwneud i fi fod yn fwy trefnus o rhan amser ac hefyd rydw i yn cadw amser lot yn well ac yn gwybod sut i ddefnyddio amser yn fwy effeithiol.

Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau (Rhifedd, Cyfathrebu neu Llythrennedd Digidol) wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth?

Dwi’n cwblhau Cyfathrebu a Rhifedd gyda’r HWB Sgiliau Hanfodol. Trwy wneud cyfathrebu rydw i nawr yn fwy hyderus yn siarad gyda rhieni neu gyda ysgolion dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Mae’r gwaith rhifedd wedi dysgu fi sgiliau ariannol ac yn helpu pan mae pobl yn talu gyda arian parod.

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Rydw i eisiau swydd gyda’r Urdd fel Cydlynydd Chwaraeon.

Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.

-        Arwain gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobol ifanc

-        Cynllunio sesiynau chwaraeon

-        Cysylltu gyda ysgolion

-        Arwain gweithgareddau gwyliau

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Hwyl, Diddorol, Cymraeg!